Mir
Gorsaf ofod oedd Mir (Rwsieg: Мир, IPA: [ˈmʲir]; sef "heddwch"). Cafodd ei lansio gan yr Undeb Sofietaidd yn 1986, a pharhaodd y gwaith adeiladu tan y 1990au cynnar. Tan lansiad yr Orsaf Ofod Rhyngwladol (International Space Station), Mir oedd yr orsaf ofod fwyaf yn hanes y gofod. Ymwelodd nifer o ofodwyr Americanaidd â'r orsaf yng nghanol y 1990au; gwelwyd y prosiect hwn fel cam pwysig yng nghyd-weithrediad Rwsia a'r UDA yn y gofod. Syrthiodd o'i orbit yn 2001.
Math o gyfrwng | gorsaf ofod |
---|---|
Màs | 129,700 ±1 cilogram |
Dechrau/Sefydlu | 1986 |
Yn cynnwys | Mir Core Module, Kvant-1, Kvant-2, Kristall, Spektr, Priroda, Mir Docking Module |
Gwladwriaeth | Yr Undeb Sofietaidd, Rwsia |
Hyd | 19 ±1 metr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |