Meddyg ac athronydd Persaidd[1][2][3][4] oedd Abū ʿAlī al-Ḥusayn ibn ʿAbdullāh ibn Sīnā (Perseg: ابو علی الحسین ابن عبدالله ابن سینا), mwy adnabyddus yn y gorllewin wrth y ffurf Ladin o'i enw, Ibn Sina, sef Avicenna (tua 980 - 1037). Roedd hefyd yn wyddonydd, seryddwr, mathemategydd, seicolegydd, milwr, gwladweinydd a bardd. Ysgrifennodd yn Arabeg yn bennaf, ond cyfansoddodd sawl gwaith yn Berseg hefyd, yn enwedig ar gyfer ei gerddi. Barddoniaeth yn hytrach na rhyddiaith oedd ei gyfrwng arferol, hyd yn oed yn achos ei weithiau gwyddonol.

Avicenna
Ganwydأبو علي الحسين بن عبد الله بن الحسن بن علي بن سينا Edit this on Wikidata
c. 980 Edit this on Wikidata
Afshona Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mehefin 1037 Edit this on Wikidata
Hamadan Edit this on Wikidata
Man preswylRay, Bukhara, Urgench, Gorgan, Hamadan Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, bardd, seryddwr, meddyg, damcaniaethwr cerddoriaeth, ffisegydd, mathemategydd, cemegydd, moesegydd, Islamic jurist, llenor Edit this on Wikidata
Swyddvizier Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCanon of Medicine, The Book of Healing, Al-isharat wa al-tanbihat Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAl-Biruni, Plotinus, Muhammad, Galen, Aristoteles, Hippocrates, Ibn Zuhr, Wasil ibn Ata, Abu Zayd al-Balkhi, Al-Kindi, Rhazes, Farabi Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Bukhara yn Ymerodraeth Persia (heddiw yn Wsbecistan), tua'r flwyddyn 980. Roedd ei dad yn ysgolhaig Ismaili adnabyddus. Addysgwyd ef gartref gan diwtor, a dangosodd dalent eithriadol yn ieuanc iawn. Ysgrifennodd tua 450 o draethodau ar wahanol bynciau; mae tua 240 wedi goroesi. O'r rhain, mae tua 150 yn trafod athroniaeth a tua 40 yn trafod meddygaeth. Ei waith enwocaf yw Llyfr Gwellhau, gwyddoniadur meddygol, a Canon Meddygaeth, a fu'n lyfr gosod ym mhrifysgolion y byd Islamaidd ac Ewrop hyd ddechrau'r 19g. Ystyrir mai ef oedd tad meddygaeth fodern.

Roedd yn astudio gwaith Aristotlys, ac Avicenna oedd un o'r ysgolheigion Mwslimaidd a drosglwyddodd wybodaeth meddygol yr hen Roegwyr a'r Rhufeiniaid yn ôl i Ewrop ar ddechrau'r Oesoedd Canol. Ymddiddorodd hefyd ym mathemateg, cerddoriaeth a seryddiaeth. Roedd yn gohebu â'r mathemategydd al-Biruni, gan drafod ffiseg, seryddiaeth ac athroniaeth.

Roedd Avicenna'n byw adeg chwalfa'r ymerodraeth Arabaidd. Gweithiodd i nifer o dywysogion Arabaidd, a chafodd ei garcharu nifer o weithiau yn sgil yr anhrefn wleidyddol. Bu farw tua 57 oed yn Hamadan, yn debyg o golig neu gamdreuliad. Credai ambell awdur iddo gael ei wenwyno gan un o'i weision.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Paul Strathern (2005). A brief history of medicine: from Hippocrates to gene therapy. Running Press. t. 58. ISBN 978-0-7867-1525-1.[dolen farw]
  2. Brian Duignan (2010). Medieval Philosophy. The Rosen Publishing Group. t. 89. ISBN 978-1-61530-244-4.
  3. Michael Kort (2004). Central Asian republics. Infobase Publishing. t. 24. ISBN 978-0-8160-5074-1.
    • Ibn Sina ("Avicenna") Encyclopedia of Islam. 2nd edition. Edited by P. Berman, Th. Bianquis, C.E. Bosworth, E. van Donzel and W.P. Henrichs. Brill 2009. Accessed through Brill online: www.encislam.brill.nl (2009) Quote: "He was born in 370/980 in Afshana, his mother's home, near Bukhara. His native language was Persian."
    • A.J. Arberry, "Avicenna on Theology", KAZI PUBN INC, 1995. excerpt: "Avicenna was the greatest of all Persian thinkers; as physician and metaphysician"[1]
    • Henry Corbin, "The Voyage and the messenger: Iran and Philosophy", North Atlantic Books, 1998. pg 74:"Whereas the name of Avicenna (Ibn sinda, died 1037) is generally listed as chronologically first among noteworthy Iranian philosophers, recent evidence has revealed previous existence of Ismaili philosophical systems with a structure no less complete than of Avicenna". [2]