Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2024
Bydd etholiad yn cael ei chynnal ar Ddydd Mawrth 5 Tachwedd 2024 i ethol Arlywydd ac Is-Arlywydd Unol Daleithiau America. Bydd pleidleiswyr ym mhob talaith ac Ardal Columbia yn dewis etholwyr i'r Coleg Etholiadol, a fydd wedyn yn ethol Arlywydd ac Is-Arlywydd am bedair blynedd.
| |||||||||||||||||||||||||||||
538 aelod y Coleg Etholiadol 270 pleidlais i ennill | |||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| |||||||||||||||||||||||||||||
|
Ymgeiswyr
golyguY Blaid Ddemocrataidd
golyguYn Ebrill 2023, cyhoeddodd yr Arlywydd presennol Joe Biden y byddai'n ceisio cael ei ailethol, gyda'r Is-Arlywydd Kamala Harris yn parhau i fod yn gydymaith iddo. Roedd pryderon ynghylch oedran Biden, gan mai ef yw’r person hynaf i gymryd swydd yr Arlywydd, yn 78 oed. Tra enillodd Biden yr enwebiad yn hawdd, roedd yn wynebu rhywfaint o wrthwynebiad gan rai a oedd yn anhapus gyda’i gefnogaeth i Israel yn Rhyfel Gaza.[1][2][3][4]
Ar 21 Gorffennaf 2024, gadawodd Biden y ras, yn dilyn perfformiad gwael ganddo mewn dadl deledu'n erbyn Donald Trump ar 27 Mehefin. Cymeradwyodd ef Kamala Harris i fod yn olynydd iddo. Daeth Harris yn enwebai swyddogol y Democratiaid ar 5 Awst yn dilyn pleidlais gan aelodau'r blaid. Ar 6 Awst, dewisodd hi Tim Walz, Llywodraethwr o Minnesota, fel ei chyd-ymgeisydd ar gyfer yr is-arlywyddiaeth.[5]
Ymgeiswyr y Blaid Ddemocrataidd yn 2024 | |
---|---|
Kamala Harris | Tim Walz |
darpar Arlywydd | darpar Is-Arlywydd |
49ain Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau (2021–presennol) |
41ain Llywodraethwr Minnesota (2019–presennol) |
Y Blaid Weriniaethol
golyguCafodd Donald Trump, yr Arlywydd ar y pryd, ei drechu gan Joe Biden yn etholiad 2020. Ef yw'r pumed cyn-lywydd i geisio ail dymor nad yw'n dilyn ei dymor cyntaf. Os bydd yn ennill, ef fyddai'r ail arlywydd i ennill tymor nad yw'n olynol, ar ôl Grover Cleveland ym 1892. Cyhoeddodd Trump y byddai'n sefyll ar 15 Tachwedd 2022. Dywedodd na fyddai’r cyn Is-Arlywydd Mike Pence yn gyd-ymgeisydd iddo.[6] Mewn achosion sifil, mae Trump wedi’i ganfod yn euog o gam-drin rhywiol a difenwi yn 2023, difenwi yn 2024, a thwyll ariannol yn 2024, gan ddod y cyn-arlywydd cyntaf i’w gael yn euog o drosedd.[7]
Ar 30 Mai 2023, cafwyd Trump yn euog o 34 cyhuddiad o ymyrryd gyda chofnodion busnes mewn ymgais i guddio taliadau i’r actores ffilm Stormy Daniels.[8] Cyhuddwyd Trump eto ym Mehefin am y modd yr ymdriniodd â dogfennau cyfrinachol a oedd yn cynnwys deunyddiau a oedd yn sensitif i ddiogelwch cenedlaethol. Dtatganodd ei fod yn ddieuog o bob cyhuddiad.[9] Ar 13 Gorffennaf 2024, saethwyd Trump yn ei glust mewn ymgais i'w lofruddio wrth iddo siarad mewn rali awyr agored ger Butler, Pennsylvania. Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, ar ddiwrnod cyntaf Confensiwn Cenedlaethol y Gweriniaethwyr, cyhoeddodd Trump ei fod wedi dewis JD Vance, y Seneddwr dros Ohio, fel ei gyd-ymgeisydd. Ar 18 Gorffennaf, derbyniodd Trump yr enwebiad gan y Confensiwn Cenedlaethol Gweriniaethol i sefyll yn yr arlywyddiaeth ar ran y Blaid Weriniaethol. Hwn oedd ei drydydd etholiad yn olynol.[10]
Ymgeiswyr y Blaid Weriniaethol yn 2024 | |
---|---|
Donald Trump | JD Vance |
darpar Arlywydd | darpar Is-Arlywydd |
45ain Arlywydd yr Unol Daleithiau (2017–2021) |
Seneddwr yr Unol Daleithiau dros Ohio (2023–presennol) |
Ymgeiswyr pleidiau eraill ac ymgeiswyr annibynnol
golyguPlaid Rhyddfrydwr
golyguDewiswyd Chase Oliver a Mike ter Maat gan y Blaid Ryddfrydol fel eu henwebeion arlywyddol ac is-arlywyddol ar 26 Mai 2024.
Ymgeiswyr Plaid Rhyddfrydwr yn 2024 | |
---|---|
Chase Oliver | Mike ter Maat |
darpar Arlywydd | darpar Is-Arlywydd |
Gweithredwr cyfrif gwerthu o Georgia |
Economegydd o Virginia |
Y Blaid Werdd
golyguDewisiwyd Jill Stein yn ymgeisydd y Blaid Werdd yn 2012 ac yn 2016. Ar 16 Awst 2024, dewiswyd Stein a'r academydd Butch Ware fel ei chyd-ymgeisydd.
Ymgeiswyr y Blaid Werdd yn 2024 | |
---|---|
Jill Stein | Butch Ware |
darpar Arlywydd | darpar Is-Arlywydd |
Meddyg o Massachusetts |
Academaidd o California |
Cornel West (annibynnol)
golyguMae Cornel West yn actifydd sosialaidd ac yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol. Ei gyd-ymgeisydd yw Melina Abdullah, arweinydd academaidd a dinesig o California.
Ymgeiswyr Annibynnol 2024 | |
---|---|
Cornel West | Melina Abdullah |
darpar Arlywydd | darpar Is-Arlywydd |
Academaidd ac actifydd o California |
Arweinydd academaidd a dinesig o California |
Ymgeiswyr a dynwyd yn ôl
golygu- Robert F. Kennedy Jr., cyfreithiwr amgylcheddol ac ymgyrchydd yn erbyn brechu. Safodd fel ymgeisydd annibynnol a dewisodd Nicole Shanahan fel ei gyd-ymgeisydd. Daeth a'i ymgyrch i ben er mwyn cymeradwyo Donald Trump.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rafford, Claire (Ionawr 19, 2022). "Biden commits to Harris as his running mate for 2024". Politico. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ionawr 27, 2022. Cyrchwyd January 19, 2022.
- ↑ Evans, Gareth (25 Ebrill 2023). "President Joe Biden launches 2024 re-election campaign". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ebrill 25, 2023. Cyrchwyd Tachwedd 10, 2023.
- ↑ Watson, Kathryn (Awst 15, 2022). "Rep. Carolyn Maloney says 'off the record', Biden is 'not running again'". CBS News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Awst 28, 2022. Cyrchwyd Medi 3, 2022.
- ↑ Vakil, Caroline (June 23, 2022). "SC Democratic governor candidate says Biden shouldn't run in 2024 due to age". The Hill. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Medi 3, 2022. Cyrchwyd Medi 3, 2022.
- ↑ "Harris could become the first female president after years of breaking racial and gender barriers". Associated Press (yn Saesneg). 21 Gorffennaf 2024. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Awst 2024. Cyrchwyd 6 Awst 2024.
- ↑ Hagen, Lisa (March 16, 2022). "Trump Appears to Rule Out Pence as Running Mate in Potential 2024 Run". US News & World Report. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mehefin 2023. Cyrchwyd June 16, 2023.
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwABC News-2024-2
- ↑ Mangan, Dan (4 Ebrill 2023). "NY grand jury indicts Trump in hush money payment case". CNBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mawrth 2023. Cyrchwyd March 30, 2023.
- ↑ Sangal, Aditi; Hayes, Mike; Powell, Tori B.; Chowdhury, Maureen; Hammond, Elise; Vogt, Adrienne (13 Mehefin 2023). "June 13, 2023 Trump pleads not guilty in historic federal indictment". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mehfin, 2023. Cyrchwyd 14 Mehefin 2023. Check date values in:
|archive-date=
(help) - ↑ "Takeaways from the final night of the Republican National Convention". CNN. 19 Gorffennaf 2024. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 22, 2024. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2024.