Ffurfiwyd yr NSPCC gan Benjamin Waugh ym 1884 o dan yr enw The London Society for the Prevention of Cruelty to Children (London SPCC). Ar ôl pum mlynedd o ymgyrchu gan y London SPCC, pasiodd y Senedd y ddeddf gyntaf erioed yn y Deyrnas Unedig ym 1889 er mwyn amddiffyn plant rhag creulondeb a chamdriniaeth.

NSPCC
Math o gyfrwngsefydliad elusennol, sefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1891, 1884 Edit this on Wikidata
Gweithwyr1,732, 1,672, 1,692, 1,647 Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.nspcc.org.uk Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Newidiwyd enw'r London SPCC i'r National Society for the Prevention of Cruelty to Children ym 1889 am fod ganddynt ganghennau ledled Prydain ac Iwerddon. Daethpwyd a'r achos cyntaf o greulondeb i blentyn gan yr NSPCC; yn y wybodaeth o'r llys, rhestrir y plentyn a ddioddefodd fel "anifail bychan", oherwydd ar y pryd nid oedd cyfreithiau ym Mhrydain er mwyn amdiffyn plant rhag cael eu camdrin. Bu'r achos yn llwyddiannus.

Derbyniodd yr NSPCC ei Siarter Brenhinol ym 1895, pan ddaeth y Frenhines Fictoria yn Noddwraig Brenhinol i'r achos. Ni newidiwyd yr enw i'r "Royal Society for the Prevention of Cruelty to Children" neu rhywbeth tebyg am fod yr enw NSPCC wedi cael ei sefydlu eisoes ac er mwyn osgoi cymysgu gyda'r Royal Society for the Prevention of Cruelty to Animals (RSPCA), a oedd wedi bod mewn bodolaeth ers dros hanner canrif. Erbyn heddiw, mae'r NSPCC yn gweithio yn Lloegr, Cymru, Gogledd Iwerddon ac Ynysoedd y Sianel. Yn yr Alban, ceir elusen o'r enw Children 1st ( a arferai cael ei alw'n Royal Scottish Society for the Prevention of Cruelty to Children). Yng Ngweriniaeth Iwerddon ceir grŵp o'r enw yr Irish Society for the Prevention of Cruelty to Children (ISPCC) a sefydlwyd ym mis Mawrth 1954.

Yr NSPCC yw'r unig elusen Prydeinig sydd wedi derbyn pŵerau statudol o dan Ddeddf y Plant 1989, sy'n galluogi'r elusen i wneud cais i ofalu a goruwchwylio plant sydd mewn perygl.

Ym mis Chwefror 2006, gweithiodd yr elusen ChildLine ar y cyd gyda'r NSPCC. Cadeirydd yr NSPCC ers 2019 yw Neil Berkett. Y Prif Gyfarwyddwr yw Syr Peter Wanless.