Neidio i'r cynnwys

Sacsoffon

Oddi ar Wicipedia
Sacsoffon
Math o gyfrwngmath o offeryn cerdd Edit this on Wikidata
Mathofferyn cerdd chwythbren, single clarinets with conical bore, offeryn cerdd â brwynen sengl Edit this on Wikidata
GwladGwlad Belg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1840 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSaxophone tone hole Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
O'r chwith i'r dde, sacsoffon alto yn E, sacsoffon soprano yn B, a sacsoffon tenor yn B

Offeryn cerdd chwythbren yw'r sacsoffon a ddyfeisiwyd gan Adolphe Sax ym 1846. Bwriad Sax oedd creu offeryn y byddai'n hawdd i'w chwarae mewn ystod o allweddi a thros amrediad eang - yn yr un ffordd a oedd yn bosib gydag offerynnau chwyth fel clarinet neu ffliwt - tra'n creu sŵn pwerus fyddai'n bosib ei glywed uwchben nifer o synau eraill, fel oedd yn bosib gydag offerynnau pres. Bwriadwyd yr offeryn yn wreiddiol ar gyfer bandiau milwrol neu fandiau pres, ac fe greodd Sax nifer fawr o fersiynau gwahanol mewn nifer o allweddi gwahanol gydag ystod enfawr, er mai pedwar fersiwn yn unig sy'n gyffredin heddiw:

  • Sacsoffon soprano yn B
  • Sacsoffon alto yn E
  • Sacsoffon tenor yn B
  • Sacsoffon baritôn yn E

Er bod sacsaffonau o fathau gwahanol yn amrywio o ran siap a maint, maent yn creu sain yn yr un ffordd ac mae'r dechneg o ran byseddu yr un fath; mae hyn yn golygu y gall unigolion sydd wedi dysgu i chwarae sacsoffon o un fath godi un o fath arall a'i chwarae yn weddol hawdd. Mae'r sacsoffon wedi ei adeiladu o bres yn bennaf, fel trwmped neu drombôn. Fodd bynnag, nid offeryn pres go iawn yw'r sacsoffôn: o ran y dull a ddefnyddir i greu sŵn, mae'r sacsoffon yn debyg iawn i'r clarinet ac yn creu sain drwy drwy ddefnyddio corsen yn yr un ffordd. Mae'r sacsoffon felly yn perthyn i deulu yr offerynnau chwyth ac mae sŵn y sacsoffon yn ymdebygu i sŵn y clarinet, er bod y dull o'i chwarae o ran allweddau'r offeryn yn debyg iawn i'r ffliwt clasurol fodern - seiliodd Sax yr offeryn ar system Theobald Boehm ar gyfer y ffliwt.

Mae'r sacsoffon yn offeryn boblogaidd mewn jazz, bandiau milwrol a ska ymysg mathau eraill o gerddoriaeth.

Sacsaffonwyr Enwog

[golygu | golygu cod]

Sacsoffonwyr jazz:

Sacsoffonwyr pop:

Eginyn erthygl sydd uchod am offeryn cerdd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.