Math o gyfrwng | gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol, gwefan, cyfryngau cymdeithasol, user-generated content platform, cymuned arlein, very large online platform |
---|---|
Crëwr | Mark Zuckerberg |
Awdur | Mark Zuckerberg, Eduardo Saverin, Dustin Moskovitz, Chris Hughes |
Iaith | Saesneg, Tsieineeg Traddodiadol, Tsieineeg Syml, Japaneg |
Dechrau/Sefydlu | 4 Chwefror 2004 |
Perchennog | Meta Platforms |
Gweithredwr | Meta Platforms |
Sylfaenydd | Mark Zuckerberg, Eduardo Saverin, Dustin Moskovitz, Chris Hughes |
Gwefan | https://www.facebook.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gwefan rwydweithio cymdeithasol yw Facebook, yn debyg i Bebo a MySpace. Yn anffurfiol, defnyddir yr enw Gweplyfr arno yn y Gymraeg.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Pan lansiwyd Facebook yn 2004 gan Mark Zuckerberg, roedd aelodaeth wedi ei gyfyngu i fyfyrwyr Prifysgol Harvard, ac yna fe ehangwyd i sawl prifysgol arall yn yr Unol Daleithiau.[2] Yn raddol ehangwyd yr aelodaeth i unrhyw un oedd â chyfeiriad e-bost sefydliad addysgol (e.e. .edu, .ac.uk, ayyb) ar draws y byd, ac yn 2006 agorwyd y wefan i unrhyw berson. Mae'r defnyddwyr yn creu pwll o Ffrindiau ac yn danfon gwybodaeth a negeseuon at ei gilydd neu eu gosod ar eu tudalennau.
Ym Medi 2012, roedd gan Facebook dros biliwn o ddefnyddwyr,[3] a chredir bod 8.7% o'r rheiny yn rhai ffug.[4]
Achos llys
[golygu | golygu cod]Yn 2007 aed a Mark Zuckerberg i'r llys gan gwmni ConnectU.com gan honni ei fod wedi dwyn eu syniad nhw am y wefan, ac wedi oedi datblygiad eu gwefan nhw'n fwriadol wrth weithio iddynt yn 2003.[5]
Nodweddion
[golygu | golygu cod]- Mae'n rhaid cofrestru â Facebook cyn cael mynediad i'r wefan.
- Gellir dewis ymuno â rhwydweithiau a seilir ar leoliad daearyddol (gwladwriaeth, gwlad neu ddinas), sefydliad addysg neu gyflogwr.
Ieithoedd Facebook
[golygu | golygu cod]Yn 2008 fel rhan o ddatblygiad Facebook ychwanegwyd rhyngwyneb amlieithog o ddewis y defnyddiwr. Ymhlith yr ieithoedd y gellir eu defnyddio mae'r canlynol:
- Cymraeg
- Saesneg
- Sbaeneg
- Catalaneg
- Norwyeg
- Almaeneg
- Tsieceg
- Tsieinëeg
- Daneg
- Ffinneg
- Eidaleg
- Iseldireg
- Pwyleg
- Rwsieg
- Swedeg
- Tyrceg
- Portiwgaleg (Brasil)
- Siapaneg
- Coreg
Preifatrwydd a diogelwch
[golygu | golygu cod]Cafwyd sawl cwyn am ddiffyg preifatrwydd ar Facebook. Yn 2010, datgelwyd fod nifer o raglenni fel gemau ar Facebook yn hel gwybodaeth bersonol a bod rhai'n eu pasio ymlaen (neu eu gwerthu) i gwmnïau eraill. Roedd hyn yn digwydd hyd yn oed ar ôl i ddefnyddwyr Facebook ddewis lefel diogelwch gwybodaeth uchaf posib. Roedd y wybodaeth a "ffermiwyd" felly'n cynnwys enwau go iawn, cyfeiriadau a gwybodaeth bersonol arall. Ym mis Hydref 2010, ar ôl wynebu bygythiad o gael achos llys yn eu herbyn yn yr Unol Daleithiau, mynnodd Facebook eu bod wedi cymryd camau i atal hynny.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gweplyfr y flwyddyn".
- ↑ Carlson, Nicholas (5 Mawrth 2010). "At Last – The Full Story Of How Facebook Was Founded". Business Insider.
- ↑ "Facebook Tops Billion-User Mark". The Wall Street Journal. New York. 4 Hydref 2012. Cyrchwyd 4 Hydref 2012.
- ↑ "Facebook: About 83 million accounts are fake". USA Today. Cyrchwyd 4 Awst 2012.
- ↑ (Saesneg) Facebook site faces fraud claim.
- ↑ "Facebook applications raise new privacy concerns again" Archifwyd 2010-11-19 yn y Peiriant Wayback, ar wefan European Digital Rights, 20.10.2010.