Monocotyledon
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Monocot)
Monocotyledonau | |
---|---|
Lili fartagon (Lilium martagon) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
Urddau | |
Gweler y rhestr |
Grŵp mawr o blanhigion blodeuol llysieuol gydag un had-ddeilen yn y hedyn yw'r monocotyledonau (hefyd unhad-ddail neu unhadgibogion). Mae tua 60,000 o rywogaethau ledled y byd,[1] gan gynnwys lilïau, tegeirianau, palmwydd a glaswellt. Fel arfer, mae gan y monocotyledonau ddail di-goes hirgul gyda gwythiennau cyfochrog ac organau blodeuol wedi'u trefnu mewn lluosrifau o dri.[2] Mae'r grŵp yn cynnwys llawer o gnydau pwysig a phlanhigion yr ardd.
Urddau
[golygu | golygu cod]Mae dosbarthiad y monocotyledonau yn amrywio. Mae'r rhestr isod yn dilyn yr Angiosperm Phylogeny Group.[3]
Urdd | Enghreifftiau |
---|---|
Acorales | gellesgen bêr |
Alismatales | llyriad y dŵr, gwellt y gamlas, llinad y dŵr, pidyn y gog |
Petrosaviales | |
Dioscoreales | iam |
Pandanales | sgriwbinwydden |
Liliales | lili, tiwlip, cwlwm cariad |
Asparagales | merllys, cenhinen, cenhinen Bedr, garlleg, eirlys, tegeirian |
Comelinidau | |
Teulu Dasypogonaceae (urdd ansicr) | |
Arecales | palmwydden |
Commelinales | llysiau'r corryn |
Poales | glaswellt, gwenith, haidd, reis, hesgen, brwynen, bromelia |
Zingiberales | sinsir, banana |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hamilton, Alan & Patrick Hamilton (2006) Plant conservation : an ecosystem approach , Earthscan, Llundain.
- ↑ Mauseth, James D. (2009) Botany: an introduction to plant biology (4ydd arg.), Jones & Bartlett, Sudbury, Massachusetts.
- ↑ The Angiosperm Phylogeny Group (2009) An update of the Angiosperm Phylogeny Group classification for the orders and families of flowering plants: APG III Botanical Journal of the Linnean Society 161 (2), 105–121.