Mynediad byd-eang i addysg
Enghraifft o'r canlynol | hawliau dynol |
---|---|
Rhan o | yr hawl i addysg |
Mynediad byd-eang i addysg[1] (neu o fewn gwlad arbennig, Mynediad cyffredinol i addysg; Universal access to education) yw'r ddelfryd o addysgu pawb, ar draws y bwrdd, waeth beth fo'u dosbarth cymdeithasol, hil, rhyw, rhywioldeb, cefndir ethnig neu anableddau corfforol a meddyliol.[2] Defnyddir y term yn aml yn y broses o dderbyn myfyrwyr i goleg, yn enwedig yn y dosbarthiadau canol ac is, ac mewn technoleg gynorthwyol [3] yr anabl. Barn rhai beirniaid yw bod y drefn hon, yn hytrach na theilyngdod caeth (meritocratiaeth), yn achosi safonau academaidd is.[4] Er mwyn hwyluso mynediad addysg i bawb, mae gan wledydd bolisiau sy'n sicrhau'r hawl i addysg.[5]
Mae mynediad byd-eang (neu gyffredinol) i addysg yn annog amrywiaeth o ddulliau pedagogaidd i ledaenu gwybodaeth ar draws amrywiaeth o gefndiroedd cymdeithasol, diwylliannol, economaidd, cenedlaethol a biolegol. Fe'i ffurfiwyd, ar y ddechrau gyda'r pwyslais ar gyfle cyfartal a chynnwys myfyrwyr ag anableddau dysgu neu gorfforol a meddyliol, ond mae bellach wedi ehangu ar draws pob math o allu ac amrywiaeth (diversity). Fodd bynnag, gan fod y diffiniad o amrywiaeth ynddo'i hun yn gyfuniad eang, bydd athrawon sy'n ymarfer mynediad i bawb yn wynebu heriau parhaus ac yn addasu eu cynllun gwers i feithrin themâu sy'n ymwneud â chyfle cyfartal yn y byd addysg.[6]
Gall mynediad cyffredinol (ar draws y bwrdd) i addysg coleg gynnwys darparu amrywiaeth o wahanol ddulliau asesu o ddysgu a chofio gwybodaeth. Er enghraifft, er mwyn penderfynu faint o'r deunydd a ddysgwyd, gall athro ymrestru sawl dull asesu: gall y dulliau asesu gynnwys arholiad cynhwysfawr, arholiadau uned, portffolios, papurau ymchwil, adolygiadau llenyddiaeth, arholiad llafar neu aseiniadau gwaith cartref.[7] Bydd darparu amryw o ffyrdd i asesu maint y dysgu a'r cofio nid yn unig yn nodi'r bylchau mewn mynediad cyffredinol ond gall hefyd egluro'r ffyrdd o wella mynediad cyffredinol.
Peidio a gwahaniaethu a chydraddoldeb mewn addysg
[golygu | golygu cod]Mae hawliau dynol yn hawliau cyffredinol, byd-eang, felly mae'n berthnasol i bawb yn gyfartal a heb wahaniaethu mewn unrhyw fodd. Fodd bynnag, mae nifer sylweddol o unigolion yn methu a derbyn addysg oherwydd gwahaniaethu sy'n atal mynediad gyflawn i addysg.[8]
Mae gwahaniaethu yn digwydd yn fwyaf amlwg o ran cyrchu addysg. Er enghraifft, gall merched wynebu rhwystrau ar sail rhyw fel priodas plant, beichiogrwydd, a thrais ar sail rhywedd, sy'n aml yn eu hatal rhag mynd i'r ysgol neu gyfrannu iddynt adael yr ysgol yn gynt na'r disgwyl.[9] Mae pobl ag anableddau yn aml yn wynebu problemau hygyrchedd ffisegol, megis diffyg rampiau neu gludiant ysgol priodol, gan ei gwneud hi'n anodd cyrraedd yr ysgol. Mae ymfudwyr yn aml yn wynebu rhwystrau gweinyddol sy'n eu hatal rhag cofrestru, gan eu gwahardd rhag y systemau addysg arferol.
Fodd bynnag, mae gwahaniaethu hefyd yn digwydd o fewn systemau addysg pan fydd rhai grwpiau sy'n derbyn addysg israddol o gymharu ag eraill, er enghraifft, mae ansawdd addysg mewn ysgolion trefol yn tueddu i fod ychydig yn uwch na'r hyn a geir mewn ardaloedd gwledig.[9]
Mae gwahaniaethu hefyd yn digwydd ar ôl addysg lle nad yw gwahanol grwpiau o bobl yn gallu defnyddio'r addysg dderbyniwyd yn effeithiol. Er enghraifft, mae bechgyn addysgedig yn tueddu i adael yr ysgol gyda photensial cyflog uwch na merched sydd wedi'u haddysgu i'r un raddfa.[9]
Mae darpariaethau di-wahaniaethu a chydraddoldeb a geir mewn cyfraith hawliau dynol rhyngwladol (IHRL) yn bodoli i sicrhau bod yr egwyddor bod hawliau dynol yn fydeang yn cael ei gweithredu'n ymarferol.[9] Datblygwyd hawliau dynol dros ddegawdau i fynd i'r afael â'r gwahaniaethu y mae pobl yn ei wynebu o ddydd i ddydd, yn enwedig addysg lle mae'r hawliau i beidio â gwahaniaethu a'r hawl i gydraddoldeb wedi'u cymhwyso i'r hawl i addysg ar draws nifer o gytuniadau (treaties,) hawliau dynol, gan gynnwys un sy'n ymroddedig i'r mater, a elwir yn UNESCO CADE.
Er gwaethaf cryfder y gyfraith ym maes 'peidio â gwahaniaethu' a 'chydraddoldeb', mae dileu gwahaniaethu ac anghydraddoldebau yn parhau i fod yn her y mae gwladwriaethau unigol a'r gymuned ryngwladol yn ei hwynebu. Cydnabuwyd hyn yn 2015 pan addawodd y gymuned ryngwladol i 'adael neb ar ôl'.[9]
Mae cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol a rhanbarthol yn cymhwyso'r hawliau i beidio â gwahaniaethu a thros gydraddoldeb yn yr hawl i addysg grwpiau ymylol. Grwpiau ymylol yw'r rhai sydd wedi dioddef gwahaniaethu hir a hanesyddol, fel arfer, ond nid yn gyfan gwbl, ar sail hunaniaeth (rhyw, er enghraifft), nodweddion (ethnigrwydd, hil), neu amgylchiad (ffoaduriaid, ymfudwyr, pobl sydd wedi'u dadleoli'n fewnol).[9]
Mae enghreifftiau o grwpiau ar yr ymylon yn cynnwys:[9]
- merched ifanc a merched hŷn
- lleiafrifoedd cenedlaethol, ethnig ac ieithyddol
- pobl ag anableddau
- pobl frodorol
- ymfudwyr
- ffoaduriaid
- ceiswyr lloches
- personau di-wladwriaeth
- pobl sydd wedi'u dadleoli'n fewnol (CDUau)
- personau dan glo / unigolion sydd wedi'u hamddifadu o ryddid
- pobl sy'n byw mewn tlodi
- pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig
- pobl y mae HIV yn effeithio arnynt
- pobl yr effeithir arnynt gan albinism
- LGBTQI
- pobl hŷn ac eraill
Mynediad i addysg yn ôl y gyfraith
[golygu | golygu cod]Yn 2009, llofnododd a chymeradwyodd Tŷ Senedd India ac Arlywydd India fil a fyddai'n caniatáu addysg orfodol am ddim i blant rhwng chwech a phedwar ar ddeg oed.[10] Roedd yn gam gwych tuag at addysg fyd-eang i bawb, ar draws y bwrdd.
Mynediad cyffredinol
[golygu | golygu cod]Mewn theori, mae mynediad cyffredinol i addysg yn golygu bod gan bobl gyfle cyfartal i gymryd rhan mewn unrhyw system addysgol. Fodd bynnag, nid yw pob unigolyn, grŵp na grŵp ethnig yn cael mynediad cyfartal.[11]
Amcangyfrifodd dwy asiantaeth ryngwladol (Sefydliad Iechyd y Byd a Banc y Byd) fod gan oddeutu biliwn o bobl ledled y byd wahanol fathau o anableddau. Mae rhwng 93 a 150 miliwn ohonyn nhw'n blant.[12] Datgelodd Plan International na chaiff y plant hyn fyth fynychu'r ysgol ac os byddant yn cofrestru yna byddant yn cael eu gwahanu oddi wrth y disgyblion eraill.[13] Dywedodd y Bartneriaeth Addysg Fyd-eang nad yw tua 90% o blant sy'n cael eu cystuddio gan anableddau o genhedloedd incwm isel a chanolig yn astudio.[14] Yn aml, nid yw'r plant hyn wedi'u cynnwys yn y system addysg gyffredin ac fe'u cyfeirir at ysgolion dysgu arbennig.[15]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Universal Access to Primary Education - World Affairs Council". www.wacphila.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-01. Cyrchwyd 2018-07-01.
- ↑ "Universal Access to Learning Improves all Countries | Global Campaign For Education United States Chapter". Global Campaign For Education United States Chapter (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-17. Cyrchwyd 2018-07-01.
- ↑ "Definition of Assistive Technology". www.gpat.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-02-17. Cyrchwyd 2018-07-01.
- ↑ MacDonald, Heather (Spring 2018). "How Identity Politics Is Harming the Sciences". City Journal. Manhattan Institute. Cyrchwyd 12 Mehefin 2018.
Lowering standards and diverting scientists’ energy into combating phantom sexism and racism is reckless in a highly competitive, ruthless, and unforgiving global marketplace.
- ↑ "Understanding education as a right". Right to Education Initiative (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-01.
- ↑ "Equal Right, Equal Opportunity – Inclusive Education for All | Education". www.unesco.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-01.
- ↑ "Methods of assessment". www.brookes.ac.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-01. Cyrchwyd 2018-07-01.
- ↑ Right to education handbook. UNESCO. 2019. ISBN 978-92-3-100305-9.
- ↑ 9.0 9.1 9.2 9.3 9.4 9.5 9.6 Right to education handbook. UNESCO. 2019. ISBN 978-92-3-100305-9.Right to education handbook. UNESCO. 2019. ISBN 978-92-3-100305-9.
- ↑ Dubey, Muchkund (2010). "The Right of Children to Free and Compulsory Education Act, 2009: The Story of a Missed Opportunity". Social Change 40: 1–13. doi:10.1177/004908570904000102.
- ↑ "The Right to Education of Persons with Disabilities". International Disability Alliance (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-01.
- ↑ "Persons with disabilities". Right to Education Initiative (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-01.
- ↑ "Inclusive education for children with disabilities". Plan International (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-01.
- ↑ "Education Data". www.globalpartnership.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-01.
- ↑ "Reading: Universal Access to Education | Sociology". courses.lumenlearning.com. Cyrchwyd 2018-07-01.