Ffosfforws
Elfen gemegol yw ffosfforws a gaiff ei chynrychioli gan y symbol P
a'r rhif atomig 15 yn y tabl cyfnodol[1]. Mae'n anfetel ac yn perthyn i'r grŵp nitrogen. Yn nhrefn safonnol IUPAC mae'r grŵp hwn (sef grŵp 15) yn cynnwys: nitrogen (N) (sy'n anfetel), ffosfforws (P) (anfetel), arsenig (As) (meteloid), antimoni (Sb) (meteloid), bismwth (Bi) (metel tlawd) ac ununpentiwm (Uup) (metel tlawd), mae'n debyg.
Ffosfforws
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Symbol | P | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhif | 15 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dwysedd | (gwyn) 1.823 g/cm³ (coch) 2.34 g/cm³ (du) 2.69 g/cm³ |
Enghraifft o'r canlynol | elfen gemegol |
---|---|
Math | polyatomic nonmetal, Anfetel |
Deunydd | phosphorite, triphylite, monazite, hinsdalite, pyromorphite, amblygonite, lazulite, wavellite, turquoise, autunite, phosphophyllite, struvite, xenotime-(Y), apatite, hydroxylapatite, fluorapatite, chlorapatite, troeth, bone ash, guano |
Màs | 30.973761998 ±5e-09 uned Dalton |
Dyddiad darganfod | 1669 |
Symbol | P |
Rhif atomig | 15 |
Trefn yr electronnau | 1s² 2s² 2p⁶ 3s² 3p³, [Ne] 3s² 3p³ |
Electronegatifedd | 2.19 |
Cyflwr ocsidiad | 2.19 |
Rhan o | Elfen cyfnod 3, Elfen Grŵp 15 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'n elfen gyffredin iawn ar y Ddaear a gellir ei ganfod mewn creigiau ffosffad, ond oherwydd ei fod yn adweithio'n sydyn, nid yw i'w ganfod yn rhydd mewn natur. Ffosfforws gwyn a gafodd ei darganfod yn gyntaf a hynny yn 1669 gan yr alcemydd Almaenig Hennig Brand.
Caiff ei defnyddio'n helaeth i wneud cynnyrch megis dur[1], gwydr arbennig [1], ceramig safon uchel[1], ffrwydron, asiantau nerfol (nerve agents), matsis (ffrithiant a "diogel"), tân gwyllt ac (fel ffosffad) mewn gwrtaith diwydiannol[1], past dannedd, a sebonau golchi[1].
Darganfyddiad
golyguCydnabyddir yr alcemydd Ellmynig Hennig Brand o ddarganfod ffosfforws yn 1669. Wrth geisio am yr eurfaen (philosopher's stone) trwy ferwi litrau lawer o wrin (troeth) pydredig cynhyrchodd past tebyg i gwyr a oedd yn goleuo yn y tywyllwch. Yn fanwl roedd wedi cynhyrchu ffosffad amoniwm sodiwm hydrogen. Gwerthodd ei gyfrinach i D Krafft o Ddresden am 200 thaler. Teithiodd Krafft Ewrop yn ei arddangos. Un o'r rhai a'i gwelodd oedd Robert Boyle. Dyfalodd hwnnw sut i wella'r broses, ac erbyn 1680 roedd wedi defnyddio ffosfforws ar gyfer math cyntefig o fatsen[2]. (Heddiw fósforo (eg) yw'r gair Sbaeneg[3] a Phortiwgaleg am fatsien.)
Oherwydd ei natur dra adweithiol, ar ffurf wedi'i glymu ag ocsigen (wedi'i ocsideiddio) y mae ffosfforws yn bodoli mewn natur (gan cynnwys wrin) bron yn ddieithriad. Gelwir hwn yn ffosffad (PO43-; yn ei ffurf wedi'i llwyr ïoneiddio). (Pan nad yw wedi ïoneiddio, ffurfia asid ffosfforig (H3PO4).)
Ffynonellau diwydiannol ffosfforws
golyguErs yr 1890au mwyngloddio creigiau ffosffad anorganig bu brif ffynhonnell yr elfen. Ar ffurf (amhur) ffosffad calsiwm (apatit) y mae'r rhan fwyaf ohono. Fe'i ffurfiwyd o waddodion morol dros filiynau o flynyddoedd cyn dod i'r wyneb drwy symudiadau tectonig y ddaear. Yn yr Unol Daleithiau cychwynnodd y diwydiant, ond mae bellach cyflenwadau sylweddol ohono yn Tsieina a Rwsia. Ond o bwys yn yr hinsawdd geo-wleidyddol bresennol yw bod tua hanner cyflenwad y byd i'w canfod mewn gwledydd arabaidd[4] , yn bennaf Moroco, lle mae dros 70% ar hyn o bryd.
Ffosfforws mewn pethau byw
golyguMae'r elfen ffosfforws yn bresennol ym mhopeth byw at y ddaear ac nid oes modd cynnal bywyd hebddo. Mae'n chwarae rôl hollbwysig ym mhrosesau biocemeg rheoli ac egnio bywyd. Mae'n debyg iddo chwarae rhan holl bwysig wrth i fywyd ffurfio (abiogenesis) tua phedwar biliwn (mil miliwn) o flynyddoedd yn ôl. Datgelir hyn heddiw yn ei rôl greiddiol mewn asidau niwclëig (DNA ac RNA) a'r ffosffolipidau sy'n ffurfio pilen pob cell - ddwy gydran hanfodol i fywyd. Mae'n rhan hollbwysig a gweithredol o'r moleciwl ATP sy'n ganolog i gyfundrefn egni bywyd at y ddaear. Mae'n debygol fod adweithiau’r moleciwl hwn (sef ATP) a'u gwreiddiau yn y byd abiotig[5].
Halwynau ffosffad calsiwm yw cyfansoddiad "caled" esgyrn a dannedd[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) Royal Society of Chemistry (Safle Periodic Table). Phosphorus http://www.rsc.org/periodic-table/element/15/phosphorus
- ↑ (Saesneg) Peter Baccini; Paul H. Brunner. Metabolism of the Anthroposphere. MIT Press, 2012. tud. 288. ISBN 0262300540.
- ↑ Diccionario Español Inglés, Peers EA et al, (gol 1976) Cassell Llundain
- ↑ (Saesneg) http://minerals.usgs.gov/minerals/pubs/commodity/phosphate_rock/ Darllennwyd 17 Ebrill 2017.
- ↑ (Saesneg) Keller, Markus A.; Turchyn, Alexandra V.; Ralser, Markus (25 Mawrth 2014). "Non‐enzymatic glycolysis and pentose phosphate pathway‐like reactions in a plausible Archean ocean". Molecular Systems Biology (Heidelberg, Germany: EMBO Press ar ran yr European Molecular Biology Organization) 10 (725). doi:10.1002/msb.20145228. ISSN 1744-4292. PMC 4023395. PMID 24771084. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4023395.
- ↑ (Saesneg) Sidney Omelon, Marianne Ariganello, Ermanno Bonucci, Marc Grynpas, and Antonio Nanci. (2013) A Review of Phosphate Mineral Nucleation in Biology and Geobiology. Calcif Tissue Int. 93, 382–396. doi: 10.1007/s00223-013-9784-9 PMCID: PMC3824353 https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC3824353/ (Hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ffosffad geogemegol.)