Neidio i'r cynnwys

KF Tirana

Oddi ar Wicipedia
KF Tirana
Tirana Club Logo.svg
Enw llawnKlubi i Futbollit Tirana
LlysenwauBardheblutë (White and blues)
Enw byrTirana
SefydlwydAwst 15, 1920; 104 o flynyddoedd yn ôl (1920-08-15),
as Shoqata Sportive Agimi[1]
MaesSelman Stërmasi Stadium
(sy'n dal: 9,600[2])
PresidentRefik Halili
Head coachArdian Mema
CynghrairAlbanian Superliga
2020/215:
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Lliwiau Trydydd dewis
Tymor cyfredol

Mae Klubi Futbollit Tirana, a elwir fel arfer yn KF Tirana yw clwb pêl-droed mwyaf llwyddiannus Albania ac fe'i lleolir yn y brifddinas, Tirana.

Hyd nes tymor 2016-2017, dyma'r unig dîm Albanaidd i chwarae bob tymor o'r Kategoria Superiore, sef prif adran bencampwriaeth y wlad.

KF Tirana yw'r clwb sydd wedi ennill fwyaf o deitlau pêl-droed yn y wlad: 24 pencampwriaeth, 16 Cwpan Albania a 11 SuperCwpan.

KF Tirana (Medi 1970)

Sefydlwyd y clwb yn Tirana ar 15 Awst 1920[3] dan yr enw Agimi Sports Association (yn y Saesneg) gan Avni Zajmi ac Anastas Koja. Ystyr agimi yw "gwawr".

Sefydlwyd yn wreiddiol fel clwb aml-gamp megis trac a maes, seiclo, pêl-foli a phêl-fasged ar 17 Medi yr un flwyddyn sefydlwyd y tîm pêl-droed. Chwaraewyd y gêm bêl-droed gyntaf swyddogol ym mis Hydref yn Shallvare yn erbyn Juventus Shkodër.[4] Yn 1930 ail-enwyd y clwb yn Sportklub Tirane gan ennill saith o'r wyth pencampwriaeth cyn y rhyfel, gan chwarae yn erbyn timau tramor hefyd gan gywnnsy o'r Eidaleg, Groeg ac Iwgoslafia.

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, gyda'r Comiwynyddion wedi cipio grym yn Albania newidiwyd enw'r clwb yn 1947 i'r enw 17 Nëntori Tirana. Gwnaed hyn i goffáu rhyddhau Tirana o'r Natsïaid, a ar 17 Tachwedd 1944 gan y lluoedd partizan Comiwynyddol.

Gydag ad-drefnu canolfannau chwaraeon ar sail broffesiynol ar 9 Mehefin 1949 newidiwyd yr enw unwaith eto, y tro yma i Puna Tirana (Llafur), ac yna nôl i 17 Nëntori ym 1958, pan amsugnwyd clwbiau Studentu a Spartaku y brifddinas. Dioddefodd y clwb adeg y Comiwnyddion wrth i'r blaid Gomiwnyddol ffafrio Partizan a Dinamo. Yn 1991 ail-fabwysiadwyd yr enw SK Tirana ac yn 2005 cymerodd yn derfynol yr enw presennol Klubi Futbollit Tirana.

Cymerodd y tîm ran mewn cystadlaethau Ewropeaidd am y tro cyntaf ym 1965.

Roedd yr 1960au a'r 70au yn gyfnod o ffyniant i'r gwyn-glas. Wedi gorffen yn ail yn 1959 a buddugoliaeth yng Nghwpan Albania (1963), enillodd 17 Nëntori bedwar teitl mewn pum tymor, gan lwyddo mewn gemau tramor hefyd. Roedd yn un o'r ychydig grwpiau yn y byd sydd yn sefyll i fyny at y Ajax mawr Cruyff, mae'r stopio Iseldiroedd yn Tirana (2-2), ac ildiodd ag anrhydedd yn Amsterdam (0-2) yn 1970.

Bu'r blynyddoedd rhwng 2000 a 2010 yn ddigon hesb i KF Tirana gan ennill dwy bencampwriaeth ar ddechrau'r mileniwm ac, tuag at y blwyddyn 2010 yn cyrraedd dau gwpan cenedlaethol. Bu tymor 2014-2015 yn ddrwg i dîm mwyaf llwyddiannus Albania, gan osgoi disgyn i adran is dim ond ar y dyddiadau diwetha'r tymor. Daeth tymor 2016-2017 i ben gyda cwympo adran ar ddiwrnod ola'r cymor. Nid oedd y 0-0 yn erbyn Vllaznia yn Scutari yn ddigon i gadw'r Tirana yn y Kategoria Superiore. Cafwyd peth cysur, fodd bynnag, drwy ennill Cwpan Albania, fuddugoliaeth 3-1 tîm Skënderbeu. Gydag hynny, yn eironig chwaraeodd KF Tirna yn gemau rhagbrofion Cynghrair Europ UEFA - y tîm cyntaf o Albania i fod yn gymwys yn Ewrop er ei fod yn disgyn yr un tymor.

Gwrthwynebwyr

[golygu | golygu cod]

Mae gan y ffans dri brif wrthwynebwyr, Vllaznia Shkodër, y darbi hynaf yn y wlad a gelwir y gemau yn 'Darbi ALbania Oll'. Yr ymgiprys fawr arall yn erbyn erbyn timau Tirana, Dinamo Tirana a Partizani Tirana. Ond ers 2010 cafwyd ymrafael ffyrnig gydag Skënderbeu Korçë ers twf diweddar y tîm hwnnw.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Official webpage of KF Tirana Archifwyd 3 Ebrill 2016 yn y Peiriant Wayback
  2. "World Stadiums – Stadiums in Albania". Worldstadiums.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2012.
  3. http://www.kftirana.al/
  4. Gjergj Kola. "Palok Nika, personazhi historik i sportit shqiptar" [Palok Nika, the historic character of Albanian sport] (yn Albanian). Shkodra Sport. Cyrchwyd 14 Awst 2015.CS1 maint: unrecognized language (link)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]