Argraffu
Delwedd:Chodowiecki Basedow Tafel 21 c Z.jpg, Close up of Block Printing at Halasur village, Karnataka.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | gweithgaredd, cangen economaidd, gwasanaeth |
---|---|
Math | techneg argraffu |
Cynnyrch | printed matter |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Argraffu yw'r broses a atgynhyrchu llythrennau a delweddau, fel rheol ar bapur.
Y math cynharaf ar argraffu oedd argraffu bloc, lle defnyddid bloc pren wedi ei gerfio i argraffu, fel rheol ar liain. Datblygwyd hyn yn Tsieina yng nghyfnod Brenhinllin Tang. Dyfeisiwyd gwasg argraffu yma yn 593 OC, ac roedd papur newyddion argraffedig ar gael yn Beijing erbyn 700. Argraffwyd llyfr, Swtra'r Diemwnt gyda'r dechneg yma yn 868.
Cyrhaeddodd printio bloc i Ewrop erbyn tua 1300. Fe'i defnyddid yn bennaf i argraffu delweddau crefyddol ar liain. Erbyn tua 1400, roedd papur wedi dod yn fwy cyffredin, ac erbyn 1425 roedd nifer fawr o brintiau ar bapur yn ymddangos. Tua chanol y ganrif, dilynwyd hwy gan "lyfrau bloc", llyfrau wedi eu hargraffu gan ddefnyddio'r dechneg yma.
Y datblygiad nesaf oedd dyfeisio teip symudol. Y cyntaf i'w ddefnyddio yn Ewrop oedd Johannes Gutenberg, o Mainz yn yr Almaen, tua 1439; er yr ymddengys fod teip symudol o fath wedi ei ddefnyddio yng Nghorea cyn hynny. Dyfeisiodd Gutenberg wasg argraffu a math arbennig o inc, a lledaenodd y dechnoleg yn gyflym trwy Ewrop.