Neidio i'r cynnwys

Barbara Ehrenreich

Oddi ar Wicipedia
Barbara Ehrenreich
GanwydBarbara Alexander Edit this on Wikidata
26 Awst 1941 Edit this on Wikidata
Butte Edit this on Wikidata
Bu farw1 Medi 2022 Edit this on Wikidata
o strôc Edit this on Wikidata
Alexandria Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Reed
  • Prifysgol Rockefeller Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, llenor, hanesydd, nofelydd, awdur ysgrifau, ymgyrchydd heddwch, gwleidydd, imiwnolegydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol, awdur, gweithredydd gwleidyddol, ffeminist Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Office of Management and Budget
  • State University of New York at Old Westbury Edit this on Wikidata
PriodJohn Ehrenreich Edit this on Wikidata
PlantRosa Brooks, Ben Ehrenreich Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, dyneiddiwr, Gwobr Pedwar Rhyddid - Rhyddid rhag Eisiau, Gwobr Erasmus, Eugene V. Debs Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://barbaraehrenreich.com/ Edit this on Wikidata

Awdur a newyddiadurwraig o'r Unol Daleithiau oedd Barbara Ehrenreich (ganwyd Barbara Alexander, 26 Awst 19411 Medi 2022).

Ganed Barbara Alexander yn Butte, Montana, i deulu dosbarth gweithiol. Derbyniodd ei gradd baglor o Goleg Reed yn Portland, Oregon, ym 1963 a'i doethuriaeth mewn bioleg cell o Brifysgol Rockefeller yn Efrog Newydd ym 1968. Gweithiodd yn ddadansoddwr cyllideb, yn aelod o'r Ganolfan Cynghori Polisi Iechyd, ac yn isddarlithydd i Raglen y Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Daleithiol Efrog Newydd yn Old Westbury. Ymddiswyddodd o'r byd academaidd ym 1974 i fod yn awdur llawn amser.[1]

Thema sy'n rhedeg trwy ei hysgrifiadau yw mai chwedl ddifrifol yw'r freuddwyd Americanaidd. Mae pynciau nodweddiadol ei hysgrifau a'i llyfrau yn cynnwys y farchnad lafur, gofal iechyd, tlodi, a sefyllfa menywod.

Enillodd Wobr Erasmus yn 2018.[2]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • The Hearts of Men: American Dreams and the Flight from Commitment (1983).
  • Fear of Falling: The Inner Life of the Middle Class (1989).
  • The Worst Years of Our Lives: Irreverent Notes from a Decade of Greed (1990).
  • Blood Rites: Origins and History of the Passions of War (1997).
  • Nickel and Dimed: On (Not) Getting By in America (2001).
  • Bait and Switch: The (Futile) Pursuit of the American Dream (2005).
  • Bright-sided (2009), a gyhoeddwyd yn y DU fel Smile or Die: How Positive Thinking Fooled America and the World.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Natalie Schachar, "Barbara Ehrenreich, Explorer of Prosperity’s Dark Side, Dies at 81", The New York Times (2 Medi 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Medi 2022.
  2. (Saesneg) "Former Laureates: Barbara Ehrenreich". Praemium Erasmianum Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-24. Cyrchwyd 23 Mai 2019.
Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.