Cartograffeg
Enghraifft o'r canlynol | cangen o wyddoniaeth, disgyblaeth academaidd, cangen economaidd, arddull mewn celf, Genre |
---|---|
Math | gwyddorau daear, daearyddiaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gwyddor gwneud mapiau a globau yw cartograffeg. Yn y gorffennol roedd cartograffwyr yn defnyddio pin a phapur i wneud hynny, ond erbyn heddiw mae llawer o fapiau yn cael eu gwneud trwy ddefnyddio cyfrifiaduron gyda meddalwedd arbennig: dylunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD), Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) neu feddalwedd dylunio mapiau arbennig eraill.
Hanes
[golygu | golygu cod]Dyluniwyd y map cynharaf tua 5000 CC, ond achosodd darganfod geometreg (yn Babilon, tua 2300 CC) ddatblygiadau mawr yn hanes gwneuthuriad mapiau. Mae'n bosib weld hynny ar fap enwog o Nippur (Babilon, tua 1400-1200 CC) a mapiau o'r cyfnod clasurol o'r Aifft.
Cafwyd datblygiadau pellach yng Ngroeg yr Henfyd. Ygrifennodd Strabo (tua 63 CC i 21 OC) ei lyfr dylanwadol Geographia. Daearegwyr enwog eraill o'r cyfnod yw Thales o Filetos, Anaximandros o Filetos, Aristarchus o Samos (y dyn cyntaf i ddweud fod y Ddaear yn symud o gwmpas yr haul) ac Eratosthenes o Cyrene. Mae dylanwad Pythagoras ac Aristoteles yn bwysig hefyd. Yn y cyfnod hwnnw y cyflwynwyd y system o hydred a lledred sy'n cael ei ddefnyddio heddiw.
Un o gartograffwyr enwocaf yr Oesoedd Canol oedd Roger Bacon a'r enwocaf yn y 15G oedd y Cymro Humphrey Lhuyd (1527 - 31 Awst 1568) oFoxhall yn Dinbych. Roedd y mwyafrif o'r mapiau a ddylunwyd yn ystod yr Oesoedd Canol yn dangos y byd yn ôl syniadaeth grefyddol y cyfnod, gyda'r tir i gyd yng nghanol disg fawr a'r môr o'i gwmpas. Fodd bynnag, roedd teithiau cyntaf Ewropwyr i'r gorllewin a'r diddordeb mewn gwledydd tramor a chreu gwladfeydd a ddaeth yn sgîl hynny, yn ysbardun i ddatblygu technegau cartograffeg newydd ar linellau mwy gwyddonol.