Deddf Hunaniaeth ac Iaith (Gogledd Iwerddon) 2022
Math o gyfrwng | Deddf Gyhoeddus Gyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig |
---|---|
Dyddiad cyhoeddi | 2022 |
Mae Deddf Hunaniaeth ac Iaith (Gogledd Iwerddon) 2022 (Gwyddeleg: Acht Féiniúlachta agus Teanga (Tuaisceart Éireann) 2022; Saesneg: Identity and Language (Northern Ireland) Act 2022) yn ddeddf iaith y bu brwydro hir i'w hennill i'r Wyddeleg nes ei gwneud yn ddeddf gwlad ar 6 Rhagfyr 2022.[1] Mae'n ymwneud yn unig â'r ieithoedd yn nhiriogaeth gyfansoddiadol Gogledd Iwerddon ac nid yng Ngweriniaeth Iwerddon lle ceir deddfwriaeth wahanol.
Deddfwriaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r Ddeddf yn rhoi statws swyddogol yn y gyfraith i'r Wyddeleg a Sgoteg Wlster, yn ogystal â dau Gomisiynydd, un i bob iaith, a swyddfa diwylliant a hunaniaeth. Swyddogaeth Comisiynydd y Wyddeleg, a elwir yn Coimisinéir Teanga yw gwarchod a hyrwyddo'r Wyddeleg ymhlith sefydliadau cyhoeddus. Mae'r comisiynydd yn monitro gweithredu'r safonau ac yn ymchwilio i gwynion.[2]
Prif ddarpariaethau
[golygu | golygu cod]Mae'r Bil yn cynnwys y darpariaethau canlynol:[3]
- Cydnabyddiaeth swyddogol ac amddiffyn yr iaith Wyddeleg
- Datblygiad traddodiad Prydeinig a Sgoteg Wlster
- Penodi dau gomisiynydd, un ar gyfer yr iaith Wyddeleg ac un ar gyfer traddodiad Prydeinig/Sgoteg Wlster
- Creu Swyddfa Hunaniaeth a Mynegiant Diwylliannol
- Buddsoddiad o £4 miliwn mewn cronfa fuddsoddi yn yr iaith Wyddeleg.
Roedd y darpariaethau ar yr iaith Wyddeleg yn seiliedig ar fodel Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.[4]
Mae'r ddeddfwriaeth yn diddymu Deddf Gweinyddu Cyfiawnder (Iaith) (Iwerddon) 1737, deddf a ddeddfwyd ym 1737 a oedd yn gwahardd defnyddio'r Wyddeleg yn y llysoedd.
Hanes
[golygu | golygu cod]Arwyddwyd Cytundeb St Andrews ym mis Hydref 2006.[5] Addawodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Atodiad B y byddai Deddf Iaith Wyddeleg:
“ |
"ac y bydd yn cydweithio â'r Pwyllgor Gwaith newydd i gynyddu a diogelu datblygiad yr iaith Wyddeleg." |
” |
Bu ymgyrchwyr yn brwydro ers amser maith dros y ddeddfwriaeth iaith. O'r 2000 cynnar ymlaen, cafwyd ymgyrch mwy trefnus a phoblogaidd o dan faner An Dream Dearg ("Y Criw Coch") a fu'n lobïo a threfnu gorymdeithiau mawrion. Bu i'r ymgyrch dros ddeddf iaith arwain at dorri cytundeb cydweithio Llywodraeth Gogledd Iwerddon rhwng Sinn Féin a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP). Ym mis Ionawr 2020 cytunodd y DUP a Sinn Féin i rannu grym yn Stormont eto, ar ôl tair blynedd o fethu â dod i gytundeb a hynny wedi i Sinn Féin ddweud na fydden nhw’n cydweithio â’r DUP eto, oni bai bod deddfwriaeth ar gyfer yr iaith Wyddeleg yn cael ei phasio. Yn 2021, wedi protestiadau mawrion bu i dros 40 o grwpiau oedd yn ymgyrchu dros yr iaith Wyddeleg lofnodi llythyr yn galw am fynd â Deddf Iaith Wyddeleg drwy San Steffan “ar unwaith”.[6]
Cafodd y Bil ei basio o'r diwedd yn San Steffan yn 2022 gan i gynulliad Stormont fethu â gweithredu.[2]
Ysbrydolwyd y Ddeddf i raddau gan strwythur Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Camau eraill
[golygu | golygu cod]- Mehefin - Gorffennaf 2022: Tŷ'r Arglwyddi yn gorffen craffu ar y Bil.[7]
- 6 Rhagfyr 2022: Bendith y Brenin Siarl III[8]
- Mehefin 2023: Cyhoeddwyd yn Nhŷ’r Arglwyddi fod y broses reoleiddio wedi cychwyn a fydd yn arwain at Ddeddf yr Iaith Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon.[9][10]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Cytundeb St Andrews
- Coimisinéir Teanga - Comisiynydd yr Iaith Wyddeleg
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Manylion y Ddeddf Gwefan Legislation.gov.uk
- Erthygl ar y Ddeddfa ar wefan An Dream Dearg
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ""An Act to make provision about national and cultural identity and language in Northern Ireland."". legislation.gov.uk.
- ↑ 2.0 2.1 "'Lá stairiúil, lá sonais' – reachtaíocht teanga nua don Tuaisceart rite in Westminster". Tuairisc.ie (yn Gwyddeleg). Pádraic Ó Ciardha. 26 Hydref 2022. Cyrchwyd 6 Mehefin 2023.
- ↑ McClafferty, Enda (2022-10-26). "Irish language and Ulster Scots bill clears final hurdle in Parliament". BBC News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-07-03. Cyrchwyd 2022-10-27.
- ↑ "Irish becomes official language in Northern Ireland for the first time". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2022-12-09. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-07-03. Cyrchwyd 2022-12-17.
The Irish language legislation was based on the model of the 1993 Welsh Language Act introduced in Wales.
- ↑ St Andrews agreement, dfa.ie, 2006, https://www.dfa.ie/media/dfa/alldfawebsitemedia/ourrolesandpolicies/northernireland/st-andrews-agreement.pdf, adalwyd 2019
- ↑ "Deddf Iaith Wyddeleg cyhoeddi llythyr gan ymgyrchwyr at Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon". Golwg360. 2021. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2024.
- ↑ "Lords concludes scrutiny of Bill". arliament.uk. 14 Gorffennaf 2022.
- ↑ "Irish becomes official language in Northern Ireland for the first time". Gwefan An Dream Dearg. 2022.
- ↑ Nuacht RTÉ (2023-06-06). "Tús le próiseas a mbeidh Acht Gaeilge ó thuaidh mar thoradh air" (yn Gwyddeleg).
- ↑ Rebecca Black PA (6 Mehefin 2023). "Appointment of language commissioners for Irish and Ulster-Scots moves closer". The Irish News (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Mehefin 2023.