Diet
Yng nghyd destyn bwyd, mae diet yn golygu:
- dewis a dethol rhai bwydydd yn unig, er mwyn cadw pwysau'r person yn is na'r hyn sy'n arferol e.e. mynd ar ddeiet
- y detholiad o fwydydd a fwyteir gan berson neu anifail e.e. 'Mae deiet y gwnhingen yn wahanol...'
Maethiad
[golygu | golygu cod]Mae cenhedloedd gwahanol yn bwyta bwydydd gwahanol, ond mae un peth yn sicr, ac yn gyffredin rhyngddynt: er mwyn cael corff iach mae'n angenrheidiol i'r maeth fod yn amrywiol er mwyn cynnwys yr hanfodion angenrheidiol hyn: fitaminau, mwynau a thanwydd megis carboheidrad, protinau a braster. Weithiau mae elfennau allanol megis crefydd yn effeithio ar ddeiet person. Gall y deiet hefyd effeithio nid yn unig ar iechyd person (neu anifail) ond hyd ei oes.
Yng Nghymru, ers degawdau bu diddordeb arbennig yn neiet traddodiadol Môr y Canoldir. Yn wahanol i nifer o ddietau eraill, cefnogir y diet hwn gan dystiolaeth safonol[1]. Datblygwyd y syniad gan Ancel Keys (1904-2004) ffisiolegydd Americanaidd a astudiodd trigolion pentref Pioppi yn yr Eidal, pentref bychan o 190 ar lan Môr Tyrrhenia, ryw 10 km o dref hynafol Velia[2] a 88 km i'r de o Salerno. Bellach cydnabyddir Pioppi fel safle treftadaeth Unesco, fel tarddle Diet Môr y Canoldir[2].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "What is a Mediterranean diet?". NHS Choices. 19/03/2015. Cyrchwyd 16/7/2017. Check date values in:
|access-date=, |date=
(help) - ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Gallagher, Paul (07/07/2017). "Meet the doctor who wants to teach us the secrets of 'the world's healthiest village'". i. Check date values in:
|date=
(help)