Disney Channel
Enghraifft o'r canlynol | gorsaf deledu, sianel deledu thematig, cable channel, cwmni cynhyrchu |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 18 Ebrill 1983 |
Perchennog | Disney Branded Television |
Rhiant sefydliad | The Walt Disney Company |
Pencadlys | Burbank |
Enw brodorol | Disney Channel |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | http://disneychannel.disney.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhwydwaith deledu Americanaidd ydy Disney Channel. Mae'n darlledu ar deledu cebl a theledu lloeren, a lleolir ei phencadlys yn West Alameda Ave. yn Burbank, Califfornia. Mae'r sianel yn eiddo i'r Disney-ABC Television Group sy'n rhan o'r The Walt Disney Company. Mae gan y Sianeli Disney Bydeang bortffolio rhyngwladol o dros 90 o sianeli sydd wedi eu hanelu at blant a theuluoedd a gellir gwylio'r sianeli mewn dros 160 o wledydd ac mewn 30 o ieithoedd.
Arbeniga'r sianel mewn creu rhaglenni ar gyfer plant ar ffurf cyfresi a ffilmiau gwreiddiol, yn ogystal â rhaglenni gan gwmnïau allanol. Caiff y sianeli eu marchnata'n bennaf at blant rhwng 6-12 oed, ac eithrio eu rhaglenni penwythnos sydd wedi eu hanelu at blant rhwng 9-15 oed. Fodd bynnag yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r ystod o wylwyr wedi ehangu ac mae bellach yn cynnwys cynulleidfa hŷn, megis arddegwyr a theuluoedd ifanc.