Neidio i'r cynnwys

Dyffryn Clwyd

Oddi ar Wicipedia
Dyffryn Clwyd
Awyrlun o led Dyffryn Clwyd o Langynhafal tua'r gorllewin
Mathdyffryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.21°N 3.38°W Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd Dyffryn Clwyd (gwahaniaethu).

Mae Dyffryn Clwyd yn ddyffryn eang sy'n gorwedd yn Sir Ddinbych yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Llifa afon Clwyd drwyddo, ar lawr y dyffryn, drwy drefi Rhuthun, Dinbych a Llanelwy, i aberu ym Môr Iwerddon ger Y Rhyl. Ar ochr ddwyreiniol y dyffryn ceir Bryniau Clwyd sy'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Er mai o'r gogledd i'r de y llifa'r dyffryn, mae'r ffyrdd yn aml yn croesi o'r gorllewin i'r dwyrain, gyda phump o fryngaerau Neolithig yn gwarchod pob bwlch e.e. Moel Fenlli'n gwarchod Bwlch Pen Barras. Ar y cyfan, bywyd cefn gwlad sydd yma, ond yn y gogledd ceir trefi twristaidd y Rhyl a Phrestatyn. Yn y gogledd, hefyd mae un o brif ysbytai Gogledd Cymru: Ysbyty Glan Clwyd.

Ceir llawer o olion bywyd a diwylliant yma drwy Oes y Cerrig ac Oes yr Efydd, gan gynnwys olion Neanderthaliaid yn Ogof Bontnewydd, yng ngogledd-orllewin y Dyffryn a dynol yn Ogof Llandegla. Yn wir caiff gogledd-orllewin Cymru ei gyfrif yn 'un o'r llefydd pwysicaf yng ngorllewin Ewrop am dystiolaeth o weithgaredd dynol Paleolithig'.[1] Yn yr Oesoedd Canol roedd cantref Dyffryn Clwyd yn cyfateb yn fras i'r dyffryn daearyddol ac roedd oddi fewn i'r hyn a elwid y Berfeddwlad (rhwng Afon Conwy a'r Ddyfrdwy).

Lleoliad Dyffryn Clwyd
Y Dyffryn o Fwlch Pen Barras
Môr o gwmwl dros y dyffryn

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Ian Brown, Discovering a Welsh Landscape (Windgather Press, 2004), tud. 5