Neidio i'r cynnwys

Eglwys Anglicanaidd Canada

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Anglicanaidd Canada
Enghraifft o'r canlynolenwad Cristnogol Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolCyngor Eglwysi'r Byd Edit this on Wikidata
GwladwriaethCanada Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.anglican.ca/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arfbais Eglwys Anglicanaidd Canada

Eglwys Anglicanaidd ymreolus yng Nghanada yw Eglwys Anglicanaidd Canada (Saesneg: Anglican Church of Canada, Ffrangeg: l'Église anglicane du Canada) sydd yn aelod o'r Cymundeb Anglicanaidd.

Eglwys Crist yn nhalaith Ontario.

Codwyd yr eglwys Anglicanaidd cyntaf yng Nghanada yn Halifax, Nova Scotia, yn 1750. Yr esgob Anglicanaidd cyntaf a gysegrwyd i weithio'r tu allan i Brydain ac Iwerddon oedd Charles Inglis, Esgob Nova Scotia, a hynny yn 1787. Yn 1832 daeth yr Eglwys Anglicanaidd yn eglwys wladol Canada. Sefydlwyd y Synod Cyffredinol yn 1893 i uno a llywodraethu'r amryw esgobaethau.[1]

Strwythur ac aelodaeth

[golygu | golygu cod]
Cyfarfod y Synod Cyffredinol yn Halifax yn 2010.

Mae gan Eglwys Anglicanaidd Canada 30 o esgobaethau, ac esgob yn bennaeth ar bob un. Mae hefyd dau esgob ychwanegol sydd yn gweithio tu hwnt i ffiniau unrhyw ardal benodol: yr Esgob Ordinari i Luoedd Arfog Canada, a'r Esgob Anglicanaidd Brodorol Cenedlaethol. Trefnir yr esgobaethau yn bedair talaith eglwysig, a phob un dan arweiniad archesgob. Cynhelir synodau lleol a rhanbarthol gan yr esgobaethau a'r taleithiau yn ogystal â'r Synod Cyffredinol sydd yn ymgynnull pob tair mlynedd i lywodraethu'r eglwys ar lefel genedlaethol. Llywydd y Synod Cyffredinol ydy'r primas, sydd yn bennaeth ar Eglwys Anglicanaidd Canada. Lleolir pencadlys yr Eglwys yn Toronto, dinas fwyaf Canada. Ar ddechrau'r 21g roedd rhyw 2,900 o eglwysi a 680,000 o aelodau gan Eglwys Anglicanaidd Canada.[1]

Pynciau llosg

[golygu | golygu cod]

Ysgolion preswyl

[golygu | golygu cod]

O'r 19g hyd at 1969, rheolwyd system o ysgolion preswyl gan yr Eglwys Anglicanaidd i gymhathu plant brodorol i'r gymdeithas wen. Roedd camdriniaeth gorfforol a rhywiol yn gyffredin yn yr ysgolion, yn ogystal â'r hiliaeth yn erbyn diwylliant cynhenid y plant. Yn 1993 ymddiheuriodd yr Eglwys yn swyddogol am yr ysgolion, ac yn 2003 cytunodd i dalu $24 miliwn yn iawndal i 80,000 o gyn-ddisgyblion.

Uniadau cyfunryw

[golygu | golygu cod]

Ers 2002, bu cryn dadlau yn yr Eglwys ynghylch uniadau cyfunryw.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Anglican Church of Canada. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Ionawr 2018.

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]