Eglwys golegol
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | math o adeilad |
---|---|
Math | eglwys, eglwys Gatholig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae eglwys golegol neu eglwys golegaidd[1] yn eglwys lle cynhelir y gwasanaethau gan goleg o canoniaid, sef cymuned o glerigwyr nad oeddent yn fynachod. Trefnir y gymuned fel corff hunanlywodraethol, a all gael ei lywyddu gan ddeon neu brofost.
O ran ei llywodraethu a'i defodau crefyddol mae eglwys golegol yn debyg i eglwys gadeiriol, er nad yw'n gartref i esgob ac nid oes ganddi esgobaeth. Yn hanesyddol, roedd eglwysi colegol yn aml yn cael eu cefnogi gan diroedd helaeth a ddelid gan yr eglwys, neu gan incwm degwm.
Cyn Diwygiad Lloegr yn nheyrasiad Harri VIII, roedd cryn nifer o eglwysi colegol yn Lloegr a Chymru, ond diddymwyd y rhan fwyaf ohonynt bryd hynny. Yng Nghymru roedd yr eglwysi canlynol yn golegol:
- Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr, Gwynedd
- Eglwys Sant Cybi, Caergybi, Ynys Môn
- Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Fawr, Ceredigion
- Eglwys Sant Pedr, Rhuthun, Sir Ddinbych
- Eglwlys y Santes Fair, Abertawe
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, s.v. "collegiate"
Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Paul Jeffery, The Collegiate Churches of England and Wales (Llundain: Robert Hale, 2004)