Neidio i'r cynnwys

Eric Fellner

Oddi ar Wicipedia
Eric Fellner
Ganwyd10 Hydref 1959 Edit this on Wikidata
Lloegr Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcynhyrchydd ffilm, cynhyrchydd gweithredol, cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd Edit this on Wikidata
PriodGaby Dellal Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Mae Eric Fellner, CBE (ganed 10 Hydref 1959, Lloegr) yn gynhyrchydd ffilmiau o Loegr sydd wedi cael ei enwebu am Wobr yr Academi.

Mae Eric Fellner yn gweithio gyda Working Title Films yn Llundain gyda Tim Bevan. Mae'r ffilmiau lle mae wedi gweithio fel cynhyrchydd neu uwch-gynhyrchydd yn cynnwys Moonlight and Valentino, Four Weddings and a Funeral, Dead Man Walking, Fargo, Notting Hill, United 93 a Bridget Jones's Diary.

Poster Four Weddings and a Funeral, un o ffilmiau Feller

Arwyddodd Working Title Films gytundeb gydag Universal Studios ym 1999 a roddodd y pŵer i Bevan a Fellner i gomisiynnu ffilmiau gyda chyllid o $35 miliwn (UDA) heb iddynt orfod dderbyn caniatad eu meistri. Bellach, y cwmni hwn yw'r cwmni cynhyrchu annibynnol mwyaf ym Mhrydain gyda swyddfeydd yn Llundain ac yn Los Angeles. Mae eu llwyddiannau'n cynnwys Four Weddings And A Funeral (1994) a wnaeth dros $250 (UDA) miliwn yn fyd eang. Enillodd Dead Man Walking a Fargo Oscars ym 1996 ac ym 1997, tra bod Elizabeth (1998) ac Atonement (2007) wedi cael eu henwebu am y Ffilm Orau yng Ngwobrau'r Academi.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.