Neidio i'r cynnwys

Gaerwen

Oddi ar Wicipedia
Gaerwen
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2222°N 4.28°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH4675 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map

Pentref gweddol fawr yng nghymuned Llanfihangel Ysgeifiog, Ynys Môn, yw'r Gaerwen[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn ne'r ynys ar ffordd yr A5 rhyw 4 milltir i'r gorllewin o bentref Llanfairpwllgwyngyll ac i'r dwyrain o Bentre Berw.

Mae yna lawer o fusnesi yn y pentref hwn, gyda dwy siop leol, "take-aways" Tseinïaidd a 'Sgod a Sglods, gwerthwr ceir, MOT ceir, siop offer cartref, tafarn o'r enw 'Gaerwen Arms' ac Ysgol Gynradd Llanfihangel Esgeifiog.

Hyd yn ddiweddar roedd yr holl drafnidiaeth i Gaergybi yn mynd trwy'r pentref, ond ar ôl i ffordd newydd yr A55, sy'n osgoi'r pentref, gael ei hagor mae pethau'n ddistawach.

Mae Stâd Ddiwydiannol y Gaerwen ar ochr orllewinol y pentref, ac mae dwy hen felin wynt i'r gogledd. Ar un adeg roedd Rheilffordd Canol Môn yn gadael y prif reilffordd i Gaergybi yng ngorsaf Gaerwen ac yn arwain tua'r gogledd-ddwyrain i Amlwch.

Pobl o'r Gaerwen

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 12 Rhagfyr 2021