Gegharkunik
Un o daleithiau (marz) Armenia yw Gegharkunik (Armeneg: Գեղարքունիք). Fe'i lleolir yn nwyrain canolbarth y wlad, am y ffin ag Aserbaijan. Gyda arwynebedd o 5,348 km², Gegharkunik yw'r dalaith fwyaf yn Armenia o ran maint. Mae 1,278 km² o'i harwynebedd yn cael ei gymryd gan Llyn Sevan, y llyn dŵr croyw mwyaf yn ardal y Cawcasws. Gavar yw prifddinas y dalaith. Poblogaeth: 240,100 (7.4% o boblogaeth Armenia).
Mae Gegharkunik yn dalaith fynyddig sy'n cynnwys yn ei ffiniau mynydd Ajdahak (3598 m). Rhed y briffordd genedlaethol Yerevan-Sevan-Dilijan trwy'r dalaith. Ceir sawl parc a gwarchodfa natur yno, yn cynnwys Parc Cenedlaethol Sevan, sy'n denu nifer o dwristiaid.
Mae'r gaeafau yn oer gydag eira ar y mynyddoedd, ond mae'r hafau yn gymhedrol ac yn tueddu i fod yn gymylog.
Cymunedau
[golygu | golygu cod]Ceir 92 cymuned (hamaynkner) yn Gegharkunik, yn drefi a phentrefi, gyda 5 ohonynt (llthrennau bras yn y rhestr) yn rhai trefol a'r 87 arall yn rhai gwledig.[1] Fe'u rhennir yma yn ôl raion (ardal neu ddosbarth).
Gavar | Sevan | Chambarak | Martuni | Vardenis |
---|---|---|---|---|
|
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Taleithiau Armenia | |
---|---|
Aragatsotn | Ararat | Armavir | Gegharkunik | Kotayk | Lori | Shirak | Syunik | Tavush | Vayots Dzor | Yerevan |