Neidio i'r cynnwys

Gellilydan

Oddi ar Wicipedia
Gellilydan
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.939°N 3.959°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH683397 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan yng Ngwynedd yw Gellilydan ("Cymorth – Sain" ynganiad ), rhwng Trawsfynydd a Blaenau Ffestiniog yng nghymuned Maentwrog.

Mae'r pentref ar ochr cefnffordd de-gogledd yr A487 yn agos at gyffordd y ffordd honno gyda'r A470 ar ben allt sy'n cael ei hadnabod fel Dreif yr Oakley, sy'n codi o bentref cyfagos Maentwrog. Dyma'r pentref agosaf at atomfa Trawsfynydd sydd llai na milltir i ffwrdd o ganol y pentref.

Mae ysgol gynradd yn y pentref o'r enw Ysgol Edmwnd Prys, sy'n rhan o ddalgylch Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog. Mae un dafarn yn y pentref o'r enw Y Bryn Arms. Mae gwasanaeth bws eithaf rheolaidd ar gael o'r pentref i Ddolgellau a Blaenau Ffestiniog ac mae hefyd yn cael ei wasanaethu gan fysus y Trawscambria o Fangor i Aberystwyth.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]