Neidio i'r cynnwys

Gwastadedd Caersallog

Oddi ar Wicipedia
Gwastadedd Caersallog
Mathglaswelltir calchaidd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.155°N 1.809°W Edit this on Wikidata
Map

Llwyfandir sialc yn ne-orllewin Lloegr yw Gwastadedd Caersallog (Saesneg: Salisbury Plain), sy'n ymestyn dros 300 milltir sgwâr (780 km²). Mae'n rhan o system o iseldiroedd sialc ledled de Lloegr. Mae'n gorwedd yn bennaf o fewn Wiltshire, ond yn ymestyn i Hampshire. Mae cyfran helaeth o'r gwastadedd wedi ei neilltuo ar gyfer hyfforddiant milwrol ac felly mae'r ardal yn denau ei phoblogaeth; dyma'r ardal fwyaf o laswelltir calchaidd sy'n weddill yng ngogledd-orllewin Ewrop.

Mae ei ffiniau braidd yn amwys, ond yn gyffredinol fe'i lleolir i'r gogledd o ddinas Caersallog, i'r de o dref Devizes; saif trefi Warminster i'r gorllewin a Ludgershall i'r dwyrain. Tref Amesbury yw'r anheddiad mwyaf ar y gwastadedd ei hun. Mae lleoedd llai yn cynnwys pentrefi Chitterne, Shrewton a Tilshead, yn ogystal â nifer o wersylloedd y fyddin.

Mae'r gwastadedd yn enwog am ei safleoedd archeolegol, sy'n cynnwys Côr y Cewri.

Gan fod rhannau helaeth o’r ardal yn anhygyrch i’r cyhoedd, mae’n hafan bywyd gwyllt, ac yn gartref i ddwy warchodfa natur genedlaethol.