Hugh Owen, Bronclydwr
Hugh Owen, Bronclydwr | |
---|---|
Ganwyd | 1639 |
Bu farw | 15 Mawrth 1700 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Roedd Hugh Owen (tua1639–15 Mawrth 1700) yn bregethwr ymneilltuol Cymreig cynnar sy'n cael ei ystyried fel "apostol ymneilltuaeth Meirionnydd"[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Hugh Owen ym Mronclydwr, Llanegryn, Sir Feirionnydd, yn blentyn i Humphrey Owen a Susan ei wraig. Roedd y teulu yn un cefnog gyda thiroedd helaeth ac yn disgyn o'r uchelwyr Cymreig. Roedd Humphrey yn fab i John Owen, mab John Lewis Owen, Aelod Seneddol Meirionnydd ym 1572 mab y Barwn Lewis ab Owain o'r Llwyn, Dolgellau.[2] Roedd yn perthyn trwy ei ddau riant i'r diwinydd Piwritanaidd blaenllaw o Loegr, John Owen (1616-1683), er does dim tystiolaeth y bu unrhyw gyfathrach ar faterion crefyddol rhyngddynt[3]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bwriad y teulu ar gyfer Hugh oedd iddo ddyfod yn offeiriad yn yr eglwys wladol, ac aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, gan ymaelodi ar 21 Gorffennaf 1660; i baratoi am ei weinidogaeth. Ond darfu pasio Deddf Unffurfiaeth 1662[4] a diarddel y clerigwyr na chydymffurfiasant o'r Eglwys aflonyddu ar ei gynlluniau. Gan wybod na fyddai ei ddaliadau crefyddol yn caniatáu iddo gael ei godi i'r offeiriadaeth o dan y ddeddf newydd, rhoddodd y gorau i'w addysg.[5]
Pe bai Hugh Owen wedi cael ei ordeinio yn offeiriad, mi fyddai wedi cael ei benodi i wasanaethu yn un o eglwysi Meirionnydd oedd "yn rhodd" ei deulu. Fe wnaeth gais i ddod yn un o'r gweinidogion annibynnol newydd, ond gan nad oedd gan yr annibynwyr awydd i sefydlu achos ym Meirion roddodd y gorau i'r bwriad hwnnw hefyd. Dychwelodd i Fronclydwr i dreulio gweddill ei ddyddiau fel tirfeddiannwr a phregethwr anghydffurfiol teithiol.[6] Cafodd ei urddo yn flaenor dysgeidiaeth yn eglwys Wrecsam, gydag awdurdod i bregethu lle y gallai yng Nghymru.
Yn ystod teyrnasiad Iago II, bu, am dymor byr, yn gaeth yng Nghastell Powys oherwydd ei ddaliadau crefyddol. Ond ar y cyfan, ni ddioddefodd yr erledigaeth bu'n gyffredin i nifer o'i gyd-grefyddwyr ar y pryd.
Yn ogystal â phregethu ym Meirionnydd, bu'n teithio i bregethu yn Sir Gaernarfon a Sir Drefaldwyn, a bu'n gyfrifol am greu sylfaen i Anghydffurfiaeth yn y siroedd hynny hefyd.[7][8]
Ar ôl pasio deddf y datganiad o oddefgarwch ym 1672, rhoddwyd trwydded wladol i gynnal cyfarfodydd crefyddol anghydffurfiol ym Mronclydwr a nifer o'r fangreoedd eraill yn Siroedd Meirionnydd, Trefaldwyn a Chaernarfon, byddai'n ymweld yn rheolaidd â hwynt a chafodd ei ordeinio yn weinidog Annibynnol i'w gwasanaethu.
Teulu
[golygu | golygu cod]Tua 1670 priododd ei wraig, Martha, bu iddynt tair merch a mab. Olynodd y mab, John Owen, ef fel gweinidog Bronclydwr. Priododd un ferch ag Edward Kenrick o Wrecsam, a olynodd ei frawd-yng-nghyfraith ym Mronclydwr.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw ym Mronclydwr yn 61 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Llanegryn. Codwyd cofgolofn iddo ger Capel Annibynnol Llanegryn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "OWEN, HUGH (1639 - 1700), pregethwr Piwritanaidd ac 'apostol Meirion.' | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-09-19.
- ↑ "Owen, Hugh (1639/40–1700), Independent minister". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/21006. Cyrchwyd 2024-09-19.
- ↑ OWEN, JOHN (1616 - 1683), diwinydd Piwritanaidd (Annibynnwr) Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 19 Medi 2024
- ↑ "Act of Uniformity, Public Act, 14 Charles II, c. 4". UK Parliament. 1662. Cyrchwyd 19 Medi 2024.
- ↑ Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion; Owen, Parch. Hugh, Bronylcydwr ar Wicidestun
- ↑ E. Calamy, ed., An abridgement of Mr. Baxter's history of his life and times, with an account of the ministers, &c., who were ejected after the Restauration of King Charles II, 2nd edn, 2 vols. (1713)
- ↑ Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I; Y Deffroad Crefyddol yn Ymledu ar Wicidestun
- ↑ Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1; Adolygiad Sir Feirionnydd ar Wicidestun