Isabelle Axelsson
Isabelle Axelsson | |
---|---|
Isabelle Axelsson 2023 | |
Ganwyd | 14 Ionawr 2001 Stockholm |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Galwedigaeth | ymgyrchydd hinsawdd |
Mae Isabelle Axelsson (ganwyd 2000/2001[1]) yn ymgyrchydd hinsawdd Swedaidd o Stockholm, sy'n canolbwyntio ar gyfiawnder newid hinsawdd.[2][3] Yn Ebrill 2021 roedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Stockholm.[4]
Bu'n drefnydd Fridays for Future (Gwener y Dyfodol) yn Sweden ers Rhagfyr 2018.[5][6] Ddiwedd Ionawr 2020, mynychodd Fforwm Economaidd y Byd yn Davos ynghyd ag ymgyrchwyr hinsawdd eraill, megis Greta Thunberg, Luisa Neubauer, Loukina Tille a Vanessa Nakate.[7][8]
Cyfranodd i lyfr o'r enw "Gemeinsam für die Zukunft - Fridays For Future und Scientists For Future: Vom Stockholmer Schulstreik zur weltweiten Klimabewegung" (Cymraeg: Gyda'n gilydd ar gyfer y dyfodol - Gwener y Dyfodol a gwyddonwyr ar gyfer y dyfodol: O streic ysgolion Stockholm i'r mudiad hinsawdd byd-eang). Yn y llyfr, disgrifiodd y mudiad Gwener y Dyfodol, er mwyn rhoi persbectif i'r darllenydd gan rywun o fewn y mudiad, ar gof a chadw.[9]
Mae gan Axelsson awtistiaeth.[10]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Young climate activist fears words not action at Davos". Reuters (yn Saesneg). 24 Ionawr 2020.
- ↑ "Isabelle Axelsson och Sophia Axelsson talar för Greta Thunberg | Nordisk Samarbejde". norden.org (yn Swedeg). Nordic Council. Cyrchwyd 2020-01-28.
- ↑ Cotton, Johnny (24 Ionawr 2020). "Young climate activist fears words not action at Davos". Reuters. Cyrchwyd 2020-01-28.
- ↑ Cyfri LinckedIn[dolen farw]; adalwyd 6 Mai 2021.
- ↑ Rydberg, Jenny (23 Mai 2019). "Klimatstrejk i över hundra länder". ekuriren.se (yn Swedeg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-09. Cyrchwyd 2020-01-28.
- ↑ Annebäck, Karin (20 Awst 2019). "Klimatfrågan har inte tagits på allvar". ETC (yn Swedeg). Cyrchwyd 2020-01-28.
- ↑ Walker, Darren (27 Ionawr 2020). "Charity won't fix inequality. Only structural change will". The Guardian. Cyrchwyd 2020-01-28.
- ↑ Dahir, Ikran (24 Ionawr 2020). "A Ugandan Climate Activist Was Cropped Out Of A News Agency Photo Of Greta Thunberg At Davos". BuzzFeed News. Cyrchwyd 2020-01-28.
- ↑ transcript. "Axelsson, Isabelle". transcript Verlag (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2021-02-11.
- ↑ "Girl power goes green: Teens strike for action on climate change". NBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 April 2021.