Neidio i'r cynnwys

LibreOffice

Oddi ar Wicipedia
LibreOffice
LibreOffice 4.3 Impress
LibreOffice 4.3 Impress (yn Saesneg)
Awdur gwreiddiolStarDivision
DatblygwrThe Document Foundation
Rhyddhad
cychwynnol
25 Ionawr 2011 (2011-01-25)
Iaith raglennuC++, Java, and Python
system weithreduNodyn:Cross-platform
LlwyfanIA-32, x86-64, ARMel, ARMhf, MIPS, MIPSel, Sparc, S390, S390x, IA-64 (platfformau Debian ychwanegol)[1]
Cyfieithu parod114 o ieithoedd, gan gynnwys Cymraeg[2]
MathCasgliad meddalwedd swyddfa
TrwyddedGNU LGPLv3 gyda chyfraniadau newydd gyda trwydded deuol dan MPL 2.0[3]
Gwefanlibreoffice.org

Mae LibreOffice yn gasgliad o feddalwedd i olygu amrywiaeth o ddogfennau swyddfa. Mae'n feddalwedd côd-agored ac mae ar gael am ddim mewn dros gant o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg.

Sefydlwyd y Document Foundation gan rai o ddatblygwyr OpenOffice wedi i'r casgliad yno cael ei drosglwyddo gan Oracle i'r Apache Software Foundation yn 2010. Ers hynny, mae'r Apache OpenOffice a LibreOffice wedi parhau i ddatblygu'n annibynnol. Yn wahanol i Apache OpenOffice, mae'r gymuned o wirfoddolwyr tu gefn i LibreOffice yn cynnwys rhai sy'n parhau i gadw pob fersiwn newydd o'r meddalwedd ar gael yn Gymraeg.

Llinell amser o brif deilliaid StarOffice ac OpenOffice.org. Mae LibreOffice mewn gwyrdd.

Y gwahanol raglenni cynwysedig

[golygu | golygu cod]

Mae LibreOffice yn gasgliad o wahanol raglenni sy'n cydweithio'n agos gyda'i gilydd i ddarparu'r nodweddion sydd i'w cael mewn casgliad arferol o feddalwedd swyddfa:

Modiwl Nodiadau
Writer Prosesydd geiriau tebyg i Microsoft Word a WordPerfect. Gall allforio ffeiliau Portable Document Format (PDF), a gall weithio fel golygydd WYSIWYG syml ar gyfer creu a golygu gwefannau.
Calc Taenlen tebyg i Microsoft Excel a Lotus 1-2-3. Gall Calc allforio taenlenni i'r fformat PDF.
Impress Rhaglen gyflwyno debyg i Microsoft PowerPoint ac Apple Keynote. Gall Impress allforio cyflwyniadau i ffeiliau (SWF) Adobe Flash, gan ganiatáu iddynt gael eu chwarae ar unrhyw gyfrifiadur gyda chwaraeydd Flash. Mae ganddo'r gallu i greu ffeiliau PDF, a'r gallu i ddarllen fformat .ppt Microsoft PowerPoint. Nid oes gan Impress ddewis o batrymluniau parod, ond mae modd lawr lwytho rhai am ddim.
Base System rheoli cronfa ddata tebyg i Microsoft Access.
Draw Golygydd graffeg fector nid annhebyg i fersiynau cynnar o CorelDRAW a Microsoft Visio. Mae ganddo hefyd nodweddion tebyg i feddalwedd Cyhoeddi pen bwrdd fel Scribus a Microsoft Publisher. Gall allforio i fformat PDF.
Math Teclyn ar gyfer creu a golygu fformiwla mathemategol, tebyg i Microsoft Equation Editor. Gellir ei fewnosod tu mewn i ddogfennau LibreOffice eraill. Mae'n cefnogi sawl ffont ac yn gallu allforio o fformat PDF.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Debian - Details of package libreoffice in wheezy". Debian project. Cyrchwyd 2014-02-16.
  2. "LibreOffice Productivity Suite Download". Cyrchwyd 2014-02-16.
  3. "GNU LGPL License". The Document Foundation. Cyrchwyd 2014-02-16.

Dolenni Allanol

[golygu | golygu cod]