Mason Ryan
Mason Ryan |
---|
Enwau Mewn Reslo:
Pwysau: 20 car. (280 pwys; 127 kg) Taldra â Ddywedwyd: 6 tr 5 mod (1.96 m)[3][4] Pwysau â Ddywedwyd: 289 pwys (131 kg)[5] Geni: 13 Ionawr 1982[4] Tremadog, Cymru[3] Yn dod o: Caerdydd, Cymru[6] Hyfforddwyd gan:
Ymddangosiad gyntaf: 2007[7] |
Mae Barri Griffiths (ganwyd 13 Ionawr 1982) yn ymgodymwr proffesiynol Cymreig ac yn gyn-gystadleuydd ar y gyfres deledu Gladiators. Mae o hefyd yn cael ei adnabod fel Goliath a hefyd drwy ei enw llwyfan sef Mason Ryan. Mae o wedi cael ei arwyddo i’r WWE, lle mae o’n ymgodymu i’r brand Raw. Roedd o'n aelod o’r grŵp The Nexus. Mae o hefyd yn cystadlu yn Florida Championship Wrestling (FCW), un o diriogaethau datblygu WWE.[5]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Fe wnaeth Griffiths fynychu Ysgol gynradd y Gorlan yn Nhremadog, Cymru ac Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog, cyn astudio rheoli adeiladaeth ym Mhrifysgol Caerdydd am 18 mis.[6][8] Roedd Griffiths yn gweithio fel hyfforddai saer coed, ac ym musnes trefnwyr angladdau ei deulu cyn mynd yn ymgodymwr proffesiynol.[2][3] Mae ganddo chwaer.[8] Roedd Griffiths yn chwarae fel amddiffynnwr canol i Glwb Pêl Droed Porthmadog a oedd chwarae yn Uwchgynghrair Cymru ar y pryd. Ond bu rhaid iddo roi’r gorau i bêl-droed oherwydd anaf i'w ben-glin.[9]
Gladiators
[golygu | golygu cod]Ymddangosodd Griffiths ar ail gyfres o raglen deledu Gladiators yn 2009, ac fe gystadlodd dan yr enw “Goliath”.[4] Yn ystod ei amser ar raglen deledu ymgodymu yng Nghymru, dywedwyd wrtho fod cynyrchywyr yn chwilio am gladiatoriaid newydd, a ymgeisiodd gydag anogaeth ei hyfforddwr, Orig Williams.[2][9] Dechreuwyd ffilmio'r sioe gyntaf tua mis wedyn ac roedd rhaid iddo dyfu barf yn arbennig i’r rôl.[2][8]
Gyrfa ymgodymu proffesiynol
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Griffiths ymarfer i fod yn ymgodymwr proffesiynol yn 2006 ar ôl mynychu sioe ymgodymu gyda ffrind lle awgrymodd hyrwyddwr iddo ddechrau ymgodymu.[2][7][8] Fe wnaeth ymarfer mewn ysgol ymgodymu proffesiynol ym Mhenbedw.[2][7] Cyn ymddangos ar Gladiators, ymgodymodd Griffiths o dan yr enwau “Celtic Warrior” a “Smackdown Warrior”. Cystadlodd mewn bron i 100 o frwydrau mewn gwledydd yn cynnwys yr Aifft a Feneswela.[2] Fe wnaeth cynrychioli y DU mewn gornest tîm tag ‘brwydr y cenhedloedd’ rhwng y DU ac Awstria, roedd yn yr un tîm â Drew McDonald a Sheamus O’Shaunessy, ond fe gollwyd yr ornest i Chris Raaber, Michael Kovac, a Robert Ray Kreuzer. Cafodd yr ornest ei gynnal yn sioe Night of Gladiators y Gymdeithas Ymgodymu Ewropeaidd (European Wrestling Association) ym Mehefin 2007.[10] Ar ôl arwyddo i’r WWE, cafodd Griffiths ei sioe derfynol yn Y Ganolfan ym Mhorthmadog, Cymru yn Hydref 2008, lle wnaeth ennill gornest senglau, cyn ennill brwydr frenhinol (Battle Royal).[11].
World Wrestling Entertainment / WWE
[golygu | golygu cod]Florida Championship Wrestling (2009-2011)
[golygu | golygu cod]Yng nghanol 2009, fe wnaeth Griffiths arwyddo cytundeb pum mlynedd gyda’r WWE.[12] Pan gafodd ei deitheb waith, ymddangosodd yn gyntaf yn ei diriogaeth datblygu, Florida Championship Wrestling (FCW) yn Ionawr 2010.[3] O dan yr enw Mason Ryan, fe wnaeth gystadlu yn erbyn ymgodymwyr yn cynnwys Johnny Curtis, Tyler Reks, Johnny Prime, a Hunico yn ei frwydr gyntaf.[1]
Ar y 22 o Orffennaf, enillodd Ryan ornest bygwth drebl yn erbyn y pencampwr Alex Riley a Johnny Curtis drwy binio Riley i ennill y Bencampwriaeth Pwysau Trwm Florida (FCW Florida Heavyweight Championship) am y tro cyntaf.[3][7][13] Dros y misoedd nesaf, amddiffynnodd Ryan ei bencampwriaeth yn llwyddiannus yn erbyn ymgodymwyr yn cynnwys Bo Rotundo, Rhichie Steamboat, ac Eli Cottonwood.[14] Ar yr 2 o Fedi, amddiffynnodd Ryan ei bencampwriaeth yn llwyddiannus yn erbyn Johnny Curtis pan ymyrrodd sylwebydd FCW, Byron Saxton a’i helpu.[14] Yn yr wythnos ganlynol, hebryngodd Saxton Ryan i’r cylch ymgodymu ag actiodd fel ei hyfforddwr.[14] Yn Nhachwedd 2010, ymddangosodd Ryan ar daith gyda’r brand Smackdown i Ewrop, yn ennill Chavo Gurrero mewn brwydrau tywyll ym Melffast ar 4 Tachwedd, yn Lerpwl ar y 6 o Dachwedd ac ym Manceinion ar y 8 o Dachwedd cyn sioe Raw Dydd Llun.[15][16] Ar y 3 o Chwefror 2011, fe wnaeth Ryan golli'r Bencampwriaeth Pwysau Trwm Florida i Bo Rotundo, yn rhoi ben i deyrnasiad chwe mis a hanner.[17]
Y Nexus Newydd (2011)
[golygu | golygu cod]Ymddangosodd Griffiths ar y teledu am y tro cyntaf ar y 17 o Ionawr ar episod o Raw drwy ymyrryd ar ornest CM Punk a John Cena. Yn dilyn yr ymyriad, fe wnaeth Punk gyflwyno iddo rwymyn braich ‘Nexus’, yn anwytho fo i mewn i’r grŵp.[12][18] Cymerodd Ryan ran yn yr ornest Royal Rumble 2011, ond cafodd ei waredu gan Cena.[19] Ar y 7 o Chwefror, fe gafodd Ryan ei ornest gyntaf ar Raw lle wnaeth golli i R-Truth trwy gael ei anghymhwyso.[20] Ar ddiwedd mis Chwefror, cafodd ei gyhoeddi fod Punk am fynd yn erbyn Randy Orton yn WrestleMania XXVII, gyda phob aelod o’r Nexus yn mynd yn erbyn Orton yn y wythnosau yn arwain i WrestleMania i ennill yr hawl i hebrwng Punk i’r cylch reslo. Ryan oedd yr olaf o’r aelodau i fynd yn erbyn Orton, ond fe gollodd ar yr episod Mawrth 14 o Raw. Yn dilyn y gornest, rhoddodd Orton gig mawr caled i ben Ryan.
Roedd Ryan yn absennol o’r teledu am bron i fis, yn dychwelyd ar y 11 o Ebrill ar Raw gydag aelodau eraill o’r Nexus, yn ymosod ar Orton ac yn ei rwystro rhag cael gornest am bencampwriaeth yr WWE.
Ar episod 2 o Fai o Raw, collodd Ryan ornest yn erbyn Kane drwy gael ei anghymhwyso yn dilyn ymyrraeth gan Punk, ac fe aeth i ymosod ar Kane a The Big Show. Wedi hynny aeth allan o’r cylch ymgodymu heb ddathlu gydag aelodau eraill y Nexus. Yn yr ornest talu-wrth-wylio Over the Limit ar y 22 o Fai, heriodd Ryan a Punk, Kane a The Big Show am y bencampwriaeth tîm tag WWE, ond ni lwyddodd hwy. Siantiodd y cefnogwyr a fynychodd y digwyddiad “Dave Batista” oherwydd y tebygrwydd mewn edrychiad rhwng Ryan a Batista.
Ar yr episod Power to the People o Raw ar y 20 o Fehefin, cafodd Ryan ei ddewis i fynd yn erbyn Evan Bourne, ac enillodd Ryan yr ornest. Fe wnaeth WWE ryddhau datganiad y diwrnod wedyn ar eu gwefan swyddogol yn dweud mai Sin Cara oedd enillydd iawn y pôl, ond roedd pleidleisiau neges destun o’r ornest ddiwethaf yn dal i ddod i mewn. Yr wythnos wedyn ar Raw, cyhoeddodd Michael Cole fod Ryan wedi cael ei anafu dros y penwythnos mewn sioe tŷ, ond roedd adroddiadau eraill ar y we yn dweud ei fod wedi cael ei anafu tu allan i’r cylch ymgodymu a bydd allan o ymgodymu am 6 wythnos ond gallai fod hyd at 6 mis.
Ymddangosodd Ryan yn y digwyddiad SummerSlam Axxess gydag aelodau o’r Nexus Newydd.
Dychwelyd i Raw
[golygu | golygu cod]Ar yr episod 8 o Fedi o WWE Superstars, dychwelodd Ryan i WWE, ac enillodd JTG. Ar episod 26 o Fedi o Raw cafodd Ryan ei ddewis gan Vickie Guerrero i fod yn bartner i Jack Swagger a Dolph Ziggler mewn gornest tag 6 dyn yn erbyn Zack Ryder ac Air Boom (Evan Bourne a Kofi Kingston). Yn yr ornest, ymosododd Ryan ar Swagger a Ziggler, a gadael i Ryder i ennill yr ornest i’w dîm, a hefyd yn troi wyneb yn y broses. Yn yr wythnos ganlynol ar Raw, ymunodd Ryan gydag Air Boom (Evan Bourne a Kofi Kingston), Sheamus, CM Punk a John Cena mewn gornest tag 12 dyn ag ennill Alberto Del Rio, Christian, Cody Rhodes, Dolph Ziggler, Jack Swagger a David Otunga. Dechreuodd gweryl gyda Dolph Ziggler, Jack Swagger a Vickie Guerrero yn y misoedd yn dilyn. Enilliodd gornest yn erbyn Dolph Ziggler ar episod arbennig o Raw (Raw Gets ROCKED) ar y 14 o Dachwedd ac enilliodd gornest arall yn yr un wythnos ar episod o Smackdown yn erbyn Jack Swagger. Ymddangosodd ar episod 8 o Ragfyr o WWE Superstars lle enilliodd Drew McIntyre.
Cyfryngau eraill
[golygu | golygu cod]Ymddangosodd Griffiths ar The Paul O’Grady Show. Barri Griffiths: Y Reslar, rhaglen ddogfennol am fywyd Griffiths yn y misoedd cyn iddo symud i’r Unol Daleithiau, darlledwyd ym Medi ar S4C.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae Griffiths yn siarad Cymraeg. Mae ganddo hefyd chwaer. Mae o’n hoffi codi pwysau.
Mewn ymgodymu
[golygu | golygu cod]Symudiadau gorffennol
[golygu | golygu cod]•Rhac torri cefn Ariannin - FCW •Tŷ o boen (Clep sengl ochr)- 2010-2011 •Clep Trontol-pwmp - 2011 •Tyndroid nelson llawn yn codi a’i ollwng i glep – 2011-presennol
Hyfforddwyr
[golygu | golygu cod]•Orig Williams •Byron Saxton
Llysenwau
[golygu | golygu cod]•“Barri ten foot”
Cerddoriaeth mynedfa
[golygu | golygu cod]•“We Are One” gan 12 Stones (Defnyddiwyd pan yn rhan o’r Nexus) •“This Fire Burns” gan Killswitch Engage (Defnyddiwyd pan yn rhan o’r Nexus Newydd) Ionawr 2011 – Medi 2011 •“Here and Now or Never” (fersiwn offerynnol) gan The Heroes Lie (Medi 2011-presennol)
Pencampwriaethau a llwyddiannau
[golygu | golygu cod]•Florida Championship Wrestling
Pencampwriaeth Pwysau Trwm Florida (FCW Florida Heavyweight Championship)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Mason Ryan. Online World of Wrestling.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 Gladiator in hot pants trouble. Metro.co.uk (8 Ionawr 2009).
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 3.7 North Wales man crowned heavyweight champion wrestler of Florida (2 Awst 2010).
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Goliath, Barri Griffiths. Gladiator Zone.
- ↑ 5.0 5.1 Mason Ryan. World Wrestling Entertainment.
- ↑ 6.0 6.1 Hughes, Owen R (26 Ionawr 2011). "Gwynedd WWE star Barri Griffiths billed as from Cardiff". Daily Post. Cyrchwyd 30 Ionawr 2011.
- ↑ 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 Barri wrestles with rise to fame (5 Awst 2010).
- ↑ 8.0 8.1 8.2 8.3 Meet North Wales’ very own Gladiators (11 Awst 2010).
- ↑ 9.0 9.1 Welsh duo are TV gladiators. Wales Online (4 Ionawr 2009).
- ↑ EWA Results. European Wrestling Association.
- ↑ North Wales wrestler Barri Griffiths off to the USA (28 Hydref 2008). [dolen farw]
- ↑ 12.0 12.1 Welsh wrestler Mason Ryan is a stateside hit. BBC (20 Ionawr 2011).
- ↑ Florida Championship Wrestling roster. Florida Championship Wrestling.
- ↑ 14.0 14.1 14.2 Florida Championship Wrestling (2010). Online World of Wrestling.
- ↑ 11/4 WWE Results: Belfast, Northern Ireland. WrestleView (5 Tachwedd 2010).
- ↑ 11/6 WWE Results: Liverpool, England. WrestleView (7 Tachwedd 2010).
- ↑ Champions Roll Call. Florida Championship Wrestling.
- ↑ RAW: The Rumble and The Nexus grow. Slam! Sports. Canadian Online Explorer (17 Ionawr 2011).
- ↑ Super-size Royal Rumble saves biggest surprise for last. Slam! Sports. Canadian Online Explorer (30 Ionawr 2011).
- ↑ RAW: Punk, Nexus battle Elimination Chamber entrants. Slam! Sports. Canadian Online Explorer (7 Chwefror 2011).