Metzgeriales
Haplomitriopsida
| |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Metzgeriales Chalaud, 1930[1] |
Genws: | Metzgeriidae[*] |
Rhywogaeth: | Metzgeriales |
Enw deuenwol | |
Metzgeriales | |
Teuluoedd | |
Allisoniaceae |
Urdd o lysiau'r afu yw Metzgeriales a gaif weithiau ei alw'n "urdd y thaloid syml", gan nad oes gan rywogaethau'r grŵp fawr o strwythur iddynt. Fel arfer nid oes ganddynt goesyn na dail. Fe'i gelwir yn "syml" gan fod eu meinwe'n denau a heb fawr o wahaniaeth rhyngddynt; mae rhai rhywogaethau mor denau nes eu bod yn dryleu.
Mae gan bob aelod o'r grŵp hwn gyfnod gametoffyt a chyfnod byrach pan mae'r sborau'n aeddfed. Maent wedi eu dosbarthu'n bur eang, er eu bod wedi eu cyfyngu i ardaloedd o leithder uchel, neu gynefinoedd llaith. Yn wir, fe'u ceir ar bob gyfandir ar wahân i'r Antarctig.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Creir cryn amrywiaeth rhwng aelodau'r urdd hon, o ran gwneuthuriad ffisegol.[2] Fel arfer, nid oes ganddynt ddail. Ond ceir rhai genera, fel y Fossombronia, a Symphyogyna sydd a strwythur a elwir yn "hanner deiliog", a chanddynt thalws llabedog iawn, ac sy'n edrych fel dail. Mae gan y genws Phyllothallia, fodd bynnag, barau o labedau (meinweoedd) wedi'u gosod yn rheolaidd ar goesyn canolog.[3] Nid yw'r grwpiau o rywogaethau hanner-deiliog yn perthyn yn agos i'w gilydd o gwbwl, a'r ddamcaniaeth ddiweddaraf (2010au) yw iddynt esblygu ar wahân.[4]
Mae aelodau urdd y Metzgeriales yn wahanol i'w perthnasau o fewn urdd y Jungermanniales gan fod eu archegonia (strwythurau atgenhedlu benywaidd) wedi'u lleoli mewn man gwahanol. Mae'r archegonia, hefyd, yn datblygu o'r gell brigol (neu 'apigol') ar frig y gangen ffrwythlon.[5] O ganlyniad, mae'r strwythurau atgenhedlu benywaidd wastad i'w gweld ar ran cefnol arwynebau'r planhigyn.[5][6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Chalaud, G. (1930). "Les derniers stades de la spermatogésè chez les hépatiques". Annales Bryologici 3: 41–50.
- ↑ Schofield, W. B. (1985). Introduction to Bryology. New York: Macmillan. tt. 180–196. ISBN 0-02-949660-8.
- ↑ Schuster, Rudolf M. (1967). "Studies on Antipodal Hepaticae IX. Phyllothalliaceae". Transactions of the British Bryological Society 5 (2): 283–288. doi:10.1179/006813867804804296.
- ↑ Schuster, Rudolf M. (1992). The Hepaticae and Anthocerotae of North America. V. Chicago: Field Museum of Natural History. tt. 287–354. ISBN 0-914868-20-9.
- ↑ 5.0 5.1 Dittmer, Howard J. (1964). Phylogeny and Form in the Plant Kingdom. Princeton, NJ: D. Van Nostrand Company. tt. 305–309. ISBN 0-88275-167-0.
- ↑ Udar, Ram; S. C. Srivastava (1967). "A remarkable Metzgeria". Transactions of the British Bryological Society 5 (2): 338–340. doi:10.1179/006813867804804269.