Rhif deuaidd
Counting in binary
[golygu | golygu cod]Patrwm degol |
Rhif deuaidd |
---|---|
0 | 0 |
1 | 1 |
2 | 10 |
3 | 11 |
4 | 100 |
5 | 101 |
6 | 110 |
7 | 111 |
8 | 1000 |
9 | 1001 |
10 | 1010 |
11 | 1011 |
12 | 1100 |
13 | 1101 |
14 | 1110 |
15 | 1111 |
O fewn mathemateg ac electroneg digidol, rhif deuaidd (weithiau: 'rhif deuol') yw nifer a fynegir yn y system rhif bôn-2 neu'r system rhifau deuaidd, sy'n defnyddio dim ond dau symbolau 0 (sero) ac 1 (un).
Cyfeirir at bob digid fel bit. Oherwydd ei ddefnydd syml o fewn cylchedau electronig, digidol, mae'r system ddeuaidd yn cael ei defnyddio gan bron pob cyfrifiadur modern a dyfeisiau cyfrifiadurol.
Hanes
[golygu | golygu cod]Astudiwyd y system rhif ddeuaidd yn Ewrop yn yr 16g a'r 17g gan Thomas Harriot, Juan Caramuel y Lobkowitz a Gottfried Leibniz. Fodd bynnag, mae systemau sy'n gysylltiedig â rhifau deuaidd wedi ymddangos yn gynharach mewn sawl diwylliant gan gynnwys yr Aifft, Tsieina ac India. Ysbrydolwyd Leibniz yn benodol gan y I Ching.[1][2][3]
Cynrychiolaeth
[golygu | golygu cod]Pan ddefnyddir rhifolion Arabaidd (dull gweledydd y Gorllewin), mae rhifau deuaidd fel arfer yn cael eu sgwennu gan ddefnyddio'r symbolau 0 ac 1.
Gall unrhyw rif gael ei gynrychioli, neu ei fynegi, gan gyfres o ddarnau (neu 'ddigidau deuaidd'), a all fod yn eu tro'n cael eu cynrychioli gan unrhyw fecanwaith sy'n gallu bod mewn dau gyflwr sy'n unigryw (two mutually exclusive states). Gellir dehongli unrhyw un o'r rhesi o symbolau canlynol fel gwerth rhifol deuaidd o 667:
1 | 0 | 1 | 0 | 0 | 1 | 1 | 0 | 1 | 1 |
| | ― | | | ― | ― | | | | | ― | | | | |
☒ | ☐ | ☒ | ☐ | ☐ | ☒ | ☒ | ☐ | ☒ | ☒ |
y | n | y | n | n | y | y | n | y | y |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Robson, Eleanor; Stedall, Jacqueline, eds. (2009), "Myth No. 2: the Horus eye fractions", The Oxford Handbook of the History of Mathematics, Oxford University Press, p. 790, ISBN 9780199213122, https://books.google.com/books?id=xZMSDAAAQBAJ&pg=PA790
- ↑ Chrisomalis, Stephen (2010), Numerical Notation: A Comparative History, Cambridge University Press, pp. 42–43, ISBN 9780521878180, https://books.google.com/books?id=ux--OWgWvBQC&pg=PA42.
- ↑ Rudman, Peter Strom (2007), How Mathematics Happened: The First 50,000 Years, Prometheus Books, pp. 135–136, ISBN 9781615921768, https://books.google.com/books?id=BtcQq4RUfkUC&pg=PA135.