Rowland Meyrick
Rowland Meyrick | |
---|---|
Ganwyd | 1505 |
Bu farw | 1566 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad |
Tad | Meurig ap Llywelyn |
Mam | Margaret verch Roland |
Priod | Catherine Barrett |
Plant | Gelli Meyrick, Sir Francis Meyrick, Francis Meyrick, of Monkton, Pembs, Sir Gelly|Gilly Meyrick |
Clerigwr o Ynys Môn a ddaeth yn Esgob Bangor oedd Rowland Meyrick (1505 - 25 Medi 1565). Bu ganddo ran flaenllaw yn hanes y Diwygiad Protestannaidd yng Nghymru.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Meyrick yn ail fab Meurig (Meyric) ap Llywelyn o blas Bodorgan a Margaret ferch Rowland ap Hywel, rheithor Aberffraw, yn 1505. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen pryd daeth i arddel y ffydd Brotestannaidd newydd. Yn nheyrnasiad Harri VIII o Loegr, cafodd reithoriaeth Stoke by Neyland yn Norfolk, ond symudodd yn ôl i Gymru yn fuan wedyn lle cafodd swydd yn rheithoriaeth Llanddewi Brefi. Treuliodd gyfnod fel canghellor Tyddewi a Wells, Gwlad yr Haf. Rhoddodd yr ail swydd heibio ac yn 1550 cofnodir ei fod yn ganghellor Esgobaeth Tyddewi, yn ganon Llanddewi Brefi ac yn rheithor ei blwyf enedigol, Llangadwaladr, Môn.[1]
Yn 1554 priododd Catherine ferch Owen Barret, un o uchelwyr Sir Benfro. Bu rhaid iddo ymddiswyddo oherwydd cyhuddiadau yn ei erbyn. Pan ddaeth Elisabeth I o Loegr i'r orsedd fe'i apwyntiwyd yn un o'r comisynwyr i arolygu eglwysi cadeiriol ac esbobaethau Cymru a'r Mers, sef Tyddewi, Llandaf, Llanelwy, Henffordd a Chaerloyw.[1]
Cafodd ei benodi yn Esgob Bangor gan Elisabeth I a'i urddo yn y swydd ar yr 21ain o Ragfyr 1559, yn 54 oed. Fe'i apwyntiwyd i Gyngor y Mers hefyd. Bu farw ar y 25ain o Fedi 1565. Fe'i claddwyd yn Eglwys Gadeiriol Bangor gan adael ar ôl ei weddw, pedwar mab a dwy ferch.[1]