Siglen felen
Siglen felen Motacilla flava | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Motacillidae |
Genws: | Motacilla[*] |
Rhywogaeth: | Motacilla flava |
Enw deuenwol | |
Motacilla flava | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Siglen felen (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: siglennod melynion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Motacilla flava; yr enw Saesneg arno yw Yellow wagtail. Mae'n perthyn i deulu'r Siglennod (Lladin: Motacillidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn M. flava, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Yn y rhannau lle mae'r gaeafau'n oer mae'r Siglen Felen yn aderyn mudol, sy'n mudo o Affrica a de Asia i aeafu. Yng ngorllewin Ewrop nid yw'n symud ymhell. Mae'n aderyn o 15 – 16 cm o hyd, gyda chynffon sy'n fyrrach na'r siglennod eraill a geir yn Ewrop, er enghraifft y Siglen Lwyd. Ceir cryn amrywiaeth yn yr is-rywogaethau, yn enwedig yn lliw y pen, ond yn gyffredionol mae'r aderyn yn wyrdd-frown ar y cefn ac yn felyn ar y bol.
Is-rywogaethau
[golygu | golygu cod]- M. f. flava - de Llychlyn hyd Ffrainc a mynyddoedd canolbarth Ewrop hyd fynyddoedd Ural
- M. f. flavissima - Prydain ac arfordir gogleddol Ffrainc
- M. f. thunbergi - canolbarth a gogledd Llychlyn hyd ogledd-orllewin Siberia
- M. f. iberiae - Penrhyn Iberia, de-ddwyrain Ffrainc, y Maghreb o Tiwnisia hyd Banc d'Arguin
- M. f. cinereocapilla - Yr Eidal, Slofenia
- M. f. pygmaea - Yr Aifft ger rhannau isaf afon Nîl
- M. f. feldegg - Y Balcanau hyd Fôr Caspia, Twrci, Iran ac Affganistan
- M. f. lutea - rhan isaf dyffryn afon Volga hyd afon Irtysh a Llyn Zaysan. *M. f. beema - i'r gogledd o lutea ac i'r dwyrain hyd Ladakh
- M. f. melanogrisea - delta afon Volga, ardal Môr hyd ogledd Affganistan
- M. f. plexa - Siberia rhwng afon Khatanga ac afon Kolyma
- M. f. tschutschensis - o gwmpas Culfor Bering hyd ogledd-orllewin Canada
- M. f. angarensis - de Siberia hyd ogledd Mongolia
- M. f. leucocephala - gogledd-orllewin Mongolia a rhannau cyfaos a Tsieina a Rwsia
- M. f. taivana - rhwng plexa a tschutschensis hyd ogledd Hokkaidō
- M. f. macronyx - de-ddwyrain Transbaikalia hyd Manchuria
- M. f. simillima - Kamchatka ac ynysoedd Môr Bering
Ar un adeg roedd y M. f. flavissima yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru, yn enwedig yn y dwyrain, ond bellach ychydig sy'n nythu yma. Gwelir nifer o'r is-rywogaethau eraill o dro i dro yn ystod y tymor mudo, yn enwedig M. f. flava (Siglen Benlas).
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r siglen felen yn perthyn i deulu'r Siglennod (Lladin: Motacillidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Aderyn hirewin Abysinia | Macronyx flavicollis | |
Aderyn hirewin Fülleborn | Macronyx fuelleborni | |
Aderyn hirewin Grimwood | Macronyx grimwoodi | |
Aderyn hirewin Pangani | Macronyx aurantiigula | |
Aderyn hirewin gwridog | Macronyx ameliae | |
Aderyn hirewin gyddf-felyn | Macronyx croceus | |
Aderyn hirewin y Penrhyn | Macronyx capensis | |
Corhedydd euraid | Tmetothylacus tenellus | |
Macronyx sharpei | Macronyx sharpei | |
Siglen goedwig | Dendronanthus indicus |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.