Tramffordd Rye a Camber
Pwrpas wreiddiol Tramffordd Rye a Camber oedd cludo golwyr o Rye, Dwyrain Sussex i'r cwrs golff. Ym 1908, ychwanegwyd estyniad i'r twyni tywod gerllaw ar gyfer pobl ar wyliau. Cludwyd tywod o'r traeth i'r dref ar gyfer adeiladwyr. Roedd Cyrnol Fred Holman Stephens Peiriannydd a Goruwchwilwr i'r tramffordd. Roedd yn lein led 3 troedfedd, a milltir a thri chwarter o hyd. Adeiladwyd y tramffordd rhwng Ionawr a Gorffennaf ym 1895, a chaewyd y lein ym 1939. Yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, defnyddiwyd y lein i gario darnau P.L.U.T.O (PipeLine Under The Ocean) at yr arfordir. Adeiladwyd seidyn gan filwyr o Ganada. Ar ôl y rhyfel, roedd y lein mewn cyflwr gwael, a gwerthwyd popeth ym 1947. Daeth y cwmni i ben yn Chwefror 1949.[1]
Locomotifau
[golygu | golygu cod]Oedd 2 locomotif Bagnall, "Camber" a "Victoria" ond yn ddiweddarach, defnyddiwyd locomotif petrol bron pob tro.
Enw | Adeiladwr | Math | Adeiladwyd | Rhif y gwaith | Silindrau | Pwys boeler | Nodiadau |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Camber | W.G. Bagnall | 2-4-0T | 1895 | 1461 | 5” x 9” | 140 pwys y fodfedd sgwâr | Sgrapiwyd yn Rye, 1947 |
Victoria | W.G. Bagnall | 2-4-0T | 1897 | 1511 | 6” x 10” | 140 pwys y fodfedd sgwâr | Gwerthwyd, 1937 |
Cwmni Adeiladu Caint | 4olwyn petrol | 1924 | 1364 | Seiliedig ar gynllun "Simplex" Gwerthwyd Hydref 1946. |