William Morris (1834–1896)
William Morris | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mawrth 1834 Walthamstow, Llundain |
Bu farw | 3 Hydref 1896 Llundain, Hammersmith |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | pensaer, bardd, cynllunydd, dylunydd graffig, arlunydd, awdur ffuglen wyddonol, gwleidydd, darlunydd, rhyddieithwr, arlunydd, handicrafter, diwygiwr cymdeithasol, caligraffydd |
Adnabyddus am | Y Tŷ Coch, A Dream of John Ball, Willow Boughs, Strawberry Thief |
Arddull | Y celfyddydau addurnol |
Plaid Wleidyddol | Ffederasiwn Democrataidd Sosialaidd, Socialist League |
Mudiad | y Mudiad Celf a Chrefft, Symbolaeth (celf) |
Priod | Jane Morris |
Plant | May Morris |
Gwefan | https://williammorrissociety.org/ |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Morris.
Pensaer, dylunydd, arlunydd, bardd a sosialydd Seisnig oedd William Morris (24 Mawrth 1834 – 3 Hydref 1896).
Ganed ef yn Walthamstow, yn fab i William Morris a'i wraig Emma Morris. Aeth i Brifysgol Rhydychen ac yn 1856, daeth yn brentis i'r pensaer Neo-Gothig G. E. Street.
Cynlluniodd Morris gartref i'w deulu, Y Tŷ Coch yn Bexley, Caint, lle trigodd y cwpl ifanc rhwng 1859-1865, cyn symud i Bloomsbury, canol Llundain, mae'r Ty bellach dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ym 1861, sefydlodd Morris gwmni celfyddydau addurnol gydag Edward Burne-Jones, Rossetti, Webb, ac eraill: daeth cwmni Morris, Marshall, Faulkner & Co. yn ffasiynol iawn ac roedd llawer o alw am eu gwaith. Dylanwadodd y cwmni'n fawr ar addurno mewnol drwy gydol y cyfnod Fictoraidd, gyda Morris yn dylunio tapestrïau, papur wal, ffabrigau, dodrefn, a ffenestri lliw. Ym 1875, cymerodd Morris reolaeth lwyr dros y cwmni, a ailenwyd yn Morris & Co.
Er iddo gadw prif gartref yn Llundain, o 1871 Morris enciliodd i dŷ gwledig ar rent sef Kelmscott Manor, Swydd Rydychen. Bu ymweliadau Morris â Gwlad yr Iâ yn ddylanwad mawr arno ac ar y cyd gyda Eiríkr Magnusson cynhyrchodd cyfres o gyfieithiadau Saesneg o'r Sagâu Islandeg.
Cyhoeddodd nifer o gyfrolau o farddoniaeth, ffuglen ac addasiadau o destunau canoloesol, yn cynnwys The Defence of Guenevere and Other Poems (1858), The Earthly Paradise (1868–1870), A Dream of John Ball a News from Nowhere. Sefydlodd y Cynghrair Sosialaidd yn 1884.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Gwaith Llenyddol
[golygu | golygu cod]Barddoniaeth, Ffuglen a Thraethodau
[golygu | golygu cod]- The Hollow Land (1856)
- The Defence of Guenevere, and other Poems (1858)
- The Life and Death of Jason (1867)
- The Earthly Paradise (1868–1870)
- Love is Enough, or The Freeing of Pharamond: A Morality (1872)
- The Story of Sigurd the Volsung and the Fall of the Niblungs (1877)
- Hopes and Fears For Art (1882)
- The Pilgrims of Hope (1885)
- A Dream of John Ball (1888)
- Signs of Change (poem)|Signs of Change (1888)
- The House of the Wolfings|A Tale of the House of the Wolfings, and All the Kindreds of the Mark Written in Prose and in Verse (1889)
- The Roots of the Mountains (1890)
- Poems By the Way (1891)
- News from Nowhere|News from Nowhere (or, An Epoch of Rest) (1890)
- The Story of the Glittering Plain (1891)
- The Wood Beyond the World (1894)
- Child Christopher and Goldilind the Fair (1895)
- The Well at the World's End (1896)
- The Water of the Wondrous Isles (1897)
- The Sundering Flood (1897) (published posthumously)
- A King's Lesson (1901)
- The World of Romance (1906)
- Chants for Socialists (1935)
- Golden Wings and Other Stories (1976)
Cyfieithiadau
[golygu | golygu cod]- Grettis Saga: The Story of Grettir the Strong with Eiríkr Magnússon (1869)
- The Saga of Gunnlaug the Worm-tongue and Rafn the Skald with Eiríkr Magnússon (1869)
- Völsung Saga: The Story of the Volsungs and Niblungs, with Certain Songs from the Elder Edda with Eiríkr Magnússon (1870) (from the Volsunga saga)
- Three Northern Love Stories, and Other Tales with Eiríkr Magnússon (1875)
- The Odyssey of Homer Done into English Verse (1887)
- The Aeneids of Virgil Done into English (1876)
- Of King Florus and the Fair Jehane (1893)
- The Tale of Beowulf Done out of the Old English Tongue (1895)
- Old French Romances Done into English (1896)
Darlithoedd a Phapurau
[golygu | golygu cod]- Lectures on Art delivered in support of the Society for the Protection of Ancient Buildings (Morris lecture on The Lesser Arts). London, Macmillan, 1882
- Architecture and History & Westminster Abbey". Papers read to SPAB in 1884 and 1893. Printed at The Chiswick Press. London, Longmans, 1900
- Communism: a lecture London, Fabian Society, 1903
- Genedigaethau 1834
- Marwolaethau 1896
- Arlunwyr y 19eg ganrif o Loegr
- Beirdd y 19eg ganrif o Loegr
- Beirdd Saesneg o Loegr
- Cyn-fyfyrwyr Coleg Exeter, Rhydychen
- Dylunwyr o Loegr
- Nofelwyr y 19eg ganrif o Loegr
- Nofelwyr Saesneg o Loegr
- Penseiri'r 19eg ganrif o Loegr
- Pobl o Lundain
- Sosialwyr o Loegr
- Teipograffwyr o Loegr