Neidio i'r cynnwys

Baner De Corea

Oddi ar Wicipedia
Korėjos vėliava. Cymesuredd 2:3
Baner Byddin De Corea
Baner Llynges De Corea
Baner Arlywydd y Weriniaeth
Baner y Prif Weinidog
Baner y Llywodraeth

Baner De Corea yw'r faner genedlaethol a baner genedlaethol Gweriniaeth Corea.

Mewn Corëeg gelir y faner yn Taegeukgi, yn y wyddor Hangul: 태극기. Crëwyd y faner gan Park Yeonghyo yn Awst 1882 yn ystod teyrnasiad y brenin Gojong o linach teulu brenhinol y Joseon, a daeth yn swyddogol ar 6 Mai 1948 ond sefydlwyd union gymesuredd y faner ar 15 Hydref 1945. Er mai dyma'r faner ar gyfer y genedl unedig Corea, yn gyntaf pan oedd yn frenhiniaeth Joseon, yna fel llywodraeth dros-dro a thramor yn ystod teyrnasiad drefedigaethol Siapan dros y penrhyn o ar yn hanner gyntaf yr 20g ac yna, am gyfnod fel gweriniaeth undeig wedi'r Ail Ryfel Byd, erbyn hyn hon yw faner swyddogol gwladwriaeth Gweriniaeth Corea. Mae gan Gogledd Corea gomiwnyddol, (Gweriniaeth Pobl Ddemocrataidd Corea) ei baner ei hun.

Mae'r llain wen yn cynnwys y Taijitu (symbol yin yang, y mae ei gyfatebiaeth Corea yn um yang) coch (uchod) a glas (isod), yr enw hwn yw y Taegeuk ac yn dynodi tarddiad popeth yn y bydysawd. Ar hyd y pedwar croeslin mae pedwar sbectrwm o'r Llyfr Newidiadau, sy'n cynrychioli'r pedair elfen: y ddaear, yr awyr, y tân a'r dŵr. Mae gan bob symbol ei gyflenwad ategol (aer a daear, tân a dŵr, yin ac yang). Felly, y syniad o harmoni cyffredinol a arweiniodd at ddyluniad y faner.

Y darluniad cynharaf mewn bodolaeth o'r faner. Argraffwyd yn llyfr Llynges yr UDA, Flags of Maritime Nations, Gorffennaf 1882.[1]

Doedd dim baner genedlaethol, na gwelwyd chwaith yr angen am un gan Corea nes ddiwedd y 19g. Daeth y newid yn sgil yr angen i Corea arwyddo cytundebau tramor gyda Siapan yn 1876, pan gynrychiolwyd Siapan gan ei baner a doedd gan Corea ddim byd cyfatebol. Erbyn 1880 gyda'r cynnydd mewn masnach a chytundebau gyda thramorwyr yn gweld yr angen am faner genedlaethol.[2] Y cynnig fwyaf poblogaidd oedd un a ddisgrifiwyd ym mhapurau'r Korean Strategy a gynigiwyd ymgorffori baner Teyrnas Qing yn Tsieina gydag un Teyrnas Joseon yn Corea. Wedi trafodaethau ni dderbyniwyd y dyluniad yma.[3]

Erbyn cytundeb Corea gyda'r Unol Daleithiau yn 1882 (Cytundeb Shufeldt) doedd y deyrnas dal heb benderfynu ar faner. Yn sgil cyflwyno baner oedd yn debyg iawn i faner Siapan (i gynrychioli Corea) i delegation of Tsieina. Awgrymodd y cynrychiolydd Tsieiniaidd, Ma Jianzhong yn erbyn defnyddio baner teyrnas Quing y Tsieniaid gan gynnig yn hytrach baner wen gyda chylch hanner glas ac hanner coch yn y canol ac wyth bar ddu o gwmpas y faner.[4] Ar 22 Awst 1882 creodd Park Yeong-hyo fodel o'r faner (y taegukgi) i lywodraeth Joseon. Park Yeong-hyo daeth y person gyntaf erioed i ddefnyddio'r Taegugki a hynny yn Ymerodraeth Siapan yn 1882.[5] Ar 27 Ionawr 1882 deddfwyd mai'r Taegukgi fyddai baner swyddogol y wlad.[3]

Dyluniad

[golygu | golygu cod]
  • Geon (☰) = 하늘 (天) = haneul (aer), uchaf ochr y mast
  • Li (☲) = 불 (火) = bul (tân), gwaelod ochr y mast
  • Gam (☵) = 물 (水) = mul (dŵr), uchaf ochr cyhwfan
  • Gon (☷) = 땅 (地) = ttang (tir), gwaelod ochr cyhwfan

天 a 地 gellir ei weld hefyd yn wahanol i synhwyrau Nefoedd (天) a'r Ddaear (地) .

Trigram

[golygu | golygu cod]
Baner De Corea yn cyfwfan

Mae'r faner yn cynnwys maes gwyn gyda cylch yn y canol a pedwar trigram symbolaidd yn y corneli.

  • Gwyn - mae gwyn yn liw traddodiadol yn niwylliant Corea. Roedd yn liw poblogaidd yn nillad pobl Corea 19g ac yn dal i ymddangos mewn fersiynau cyfredol o ddillad traddodiadol Corea megis yr hambok (gwisg draddodiadol Corea). Mae'r lliw yn cynrychioli heddwch a phurdeb.[6]
  • Y Cylch - mae'r cylch ynghanol y maes yn cynrychioli balans neu gydbwysedd y bydysawd. Mae'r ochr goch yn cynrychili ynni bositif cosmig y bydysawd, a'r ochr glas yn cynrychioli'r gwrthwyneb - ynni cosmig negatif.
  • Ill pedwar mae'r trigramau yn cynrychioli symudiad a harmoni fel egwyddorion sylfaenol. Mae pob trigram (hangeul: [gwae]; hanja: ) yn cynrychioli un o'r pedwar elfen glasurol,[7] fel disgrifir isod:
Trigram Enw Corëeg Corff Wybrennol Tymor Y Pedwar Ban Rhinwedd Teulu Elfen Naturiol Ystyr
geon
(건 / )
nen
(천 / )
gwanwyn
(춘 / )
dwyrain
(동 / )
dynolrwydd
(인 / )
tâd
(부 / )
nefoedd
(천 / )
cyfiawnder
(정의 / 正義)
ri
(리 / )
haul
(일 / )
hydref
(추 / )
de
(남 / )
cwrteisi
(례 / )
merch
(녀 / )
tân
(화 / )
gwireddiad
(결실 / 結實)
gam
(감 / )
lleuad
(월 / )
gaeaf
(동 / )
gogledd
(북 / )
deallusrwydd
(지 / )
mab
(자 / )
dŵr
(수 / )
doethuneb
(지혜 / 智慧)
gon
(곤 / )
daear
(지 / )
haf
(하 / )
gorllewin
(서 / 西)
bod yn gyfiawn
(의 / )
mam
(모 / )
daear (fel elfen)
(토 / )
vitality
(생명력 / 生命力)

Gwener hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. United States. Navy Dept. Bureau of Navigation (1882). Flags of maritime nations: from the most authentic sources. Bureau of Navigation. t. 16.
  2. "대한민국[Republic of Korea,大韓民國]" (yn Korean). Doosan Corporation. Cyrchwyd November 5, 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. 3.0 3.1 name="EncyKorea Taegukgi">태극기 [Taegukgi] (yn Korean). Academy of Korean Studies. Cyrchwyd November 5, 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. 태극기 [Taegukgi] (yn Korean). Academy of Korean Studies. Cyrchwyd November 5, 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
  5. name="Naver Taegukgi">태극-기太極旗 [Taeguk-gi] (yn Korean). NAVER Corp. Cyrchwyd November 5, 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
  6. "National Administration : National Symbols of the Republic of Korea : The National Flag - Taegeukgi". Mois.go.kr. Cyrchwyd 9 January 2018.
  7. "The World Factbook". Central Intelligence Agency. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-03. Cyrchwyd November 4, 2013.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am faner neu fanereg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Corea. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato