Baner Sri Lanca
Math o gyfrwng | baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | dark red, melyn, gwyrdd, oren |
Dechrau/Sefydlu | 22 Mai 1972 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae gan faner Sri Lanca betryal yn yr hoist sydd wedi'i rannu'n hanner chwith gwyrdd a hanner dde saffron, a phetryal rhudd yn y fly â llew euraidd yn dal cleddyf ynddo. Daw enw traddodiadol yr ynys yn llenyddiaeth Sansgrit a Pali, Sinhaladvipa, o'r Sinhaleg am lew (sinha), a bu llew yn dal cleddyf yn symbol ar faner y wlad ers y 15g. Mabwysiadwyd y faner gyda border melyn, i symboleiddio Bwdhaeth, ar 4 Chwefror 1948. Mae'r llew yn cynrychioli'r awydd am heddwch a'r rhudd yn symboleiddio balchder cenedlaethol. Ychwanegwyd y stribedi gwyrdd (am Fwslimiaid) a saffron (am y Tamiliaid) ym 1950. Mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol ar 7 Medi 1978 pan ychwanegwyd pedair deilen y ffigysbren yng nghorneli'r petryal rhudd. Maent yn cynrychioli'r ffigysbren a wnaeth Siddartha Gautama eistedd oddi tanddi pan enillodd oleuedigaeth a daeth yn y Bwdha, ac yn unigol maent yn symboleiddio cariad, trugaredd, cydymdeimlad, a phwyll.
Ffynhonnell
[golygu | golygu cod]- Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Southwater, 2010).