Neidio i'r cynnwys

Cynhanes Cymru

Oddi ar Wicipedia

Mae cynhanes Cymru'n ymestyn o wawr Hen Oes y Cerrig i Oes yr Haearn a dyfodiad y Rhufeiniaid i'r wlad. Roedd yr hinsawdd yn yr adeg yma'n gyfnewidiol, fel a fu erioed.[1] Oherwydd hyn, roedd y planhigion a'r ffawna hefyd yn newid a gallwn ddyfalu'r tymheredd ar unrhyw adeg yn ôl y planhigion a'r ffawna a oedd i'w gael ar yr adeg honno. Yn ystod y cyfnodau rhewlifol ymdebygai'r wlad i'r Arctig, gyda lefel y môr oddeutu 200 metr yn is nag y mae heddiw. Golyga hyn fod tir yn cysylltu'r ynys gydag Ewrop ac roedd Bae Ceredigion ac i'r gogledd o Landudno yn dir isel. Yn ystod y cyfnodau cynnes (rhwng y rhewlifau) roedd Prydain yn ynys yn llawn o blanhigion a choed ac anifeiliaid hinsawdd cynnes.

Ceir tystiolaeth o dri math o fodau dynol yng Nghymru yn ystod y cyfnod cynhanes (a phrotohanes):

  1. Neanderthals cynnar yn Ogof Bontnewydd, ger Llanelwy - 225,000 CP
  2. Neanderthal clasurol yn Ogof Coygan, Sir Gaerfyrddin - 50,000 CP
  3. Bod dynol modern yn Ogof Paviland, Gŵyr - 26,000 CP

Trosolwg o'r dystiolaeth

[golygu | golygu cod]

Dyn cynharaf

[golygu | golygu cod]
Dyn coch Pen-y-fai

Mae'r dystiolaeth hynaf o fodolaeth dynol yn dod o Ogof Pontnewydd, Ddinbych, lle darganfuwyd gweddillion Neanderthal yn dyddio o 230,000 o flynyddoedd yn ôl. Darganfuwyd gerrig bwyell a ddefnyddiwyd gan Neanderthaliaid yn Ogof Coygan sy'n dyddio o 60,000 i 40,000 o flynyddoedd yn ôl. Ymddangosodd y bodau dynol homo sapien cyntaf tua 60,000 o flynyddoedd yn ôl.[2]

Yn Ewrop a Phrydain mae'r homo sapiens cynharaf yn dyddio o tua 40,000 o flynyddoedd yn ôl.[3] Mae enghraifft o ysgerbwd dyn Paeleolithig Goch yn Ogof Pen-y-Fai yn dyddio o tua 33,000-34,000 o flynyddoedd yn ôl.[4] Dyma'r enghraifft cynharaf o gladdiad seremonïol yng Ngorllewin Ewrop i gyd ac mae sawl galwad wedi bod i ddychwelyd y dyn coch yn ôl i Gymru o Loegr.[5][6]

Mewnfudiad ffermwyr ~4000 C.C.

[golygu | golygu cod]
Bryn Celli Ddu, Ynys Môn

Ymddangosodd diwylliannau Neolithig gyntaf ym Mhrydain tua 4000 CC. Cyflwynwyd amaethyddiaeth i Brydain gan ffermwyr cyfandirol. Mewn astudiaeath genetaidd, danghoswyd fod cysylltiadau rhwng pobl Neolithig Prydain a phobl Neolithig Iberia. Mae hyn yn awgrymu yr oedd pobl Neolithig Prydain yn ddisginyddion i ffermwyr Aegeaidd a ddaeth i Brydain drwy ddilyn arfordir Môr y Canoldir.[7] Adeiladwyd bedrodd Neolithig Pentre Ifan tua 4000 CC[8] a siambr gladdu yn Carnedd Hir Parc Cwm tua 3800 CC[9] ac adeiladau pren yn Llandygai sy'n dyddio o 3760-3620 CC.[10] Tua 700 mlynedd yn ddiweddarach, adeiladwyd Bryn Celli Ddu tua 3074-2956 a CC.[11][12]

Mewnfudiad Celtaidd ~1000 C.C

[golygu | golygu cod]
Map bras o lwythau Cymru, ~48 OC

Mae astudiaeth genetaidd hefyd yn cefnogi mewnfudiad Celtaidd i dde Prydain tua 1000-875 CC a all fod yn gyfrifol yn ledaeniad ieithoedd Celtaidd cynnar yn y cyfnod.[13] Yn 55 a 54 CC, glaniodd Iŵl Cesar ym Mhrydain a theithiodd drwy'r de-ddwyrian yn unig. Gwelodd debygiaethau rhwng Celtiaid Prydain a Cheltiaid Gâl on roedd rhain pethau yn unigryw am y Celtiaid Brythoniaidd gan gynnwys peintio'i hunain gyda glaslys a'u defnydd parhaol o'r cerbyd (chariot) mewn rhyfel.[14]

Dechreuodd goresgyniad y Rhufeiniaid tua 90 mlynedd yn ddiweddarach yn 43 OC, ac anfonwyd byddin o 40,000 i Brydain yn 48 OC.[15] Rhoddir ddarlun gwahanol o'r Brythoniaid yn y cyfnod hwn gan yr ymerawdr Claudius. Daeth y Rhufeiniaid i adnabd y llwythau Prydain yn ehangach a disgrifir rheolaeth mwy canolog ohonynt gan gynnwys brenhinoedd. Awgrymir yr awdur Barri Jones mai conffederaliaeth o lwythau Celtaidd a fodolodd yng Nghymru rhwng y Cornoficiaid, y Demetiaid, yr Ordoficiaid a'r Silwriaid.[14]

Hen Oes y Cerrig

[golygu | golygu cod]

Ni fu ynys Prydain erioed yn gyfan gwbwl dan rew: gorchuddiwyd y rhan fwyaf gan rewlifoedd sydd dros y blynyddoedd wedi dinistrio tystiolaeth bwysig o bobl - ond mae stribed cul o dir lle na chafwyd rhewlifau'n ymestyn rhwng Afon Hafren i Afon Trent.[16]

Ogof Bontnewydd lle cafwyd hyd i esgyrn dynol o'r cyfnod rhwng 230,000 a 180,000 C.P.

Gwyddom i sicrwydd fod pobl yn byw yng Nghymru yn y cyfnodau cynnes rhwng y gyfres o Oesoedd Iâ a gafwyd yn Ewrop a cheir tystiolaeth fod sawl grŵp o bobl wedi croesi'r pont tir sych i hela ar y gwastadeddau gwelltog a adewid ar ôl y rhew yn y cyfnodau cynnes, efallai mor gynnar â 200,000-100,000 CP. Yn Ogof Bontnewydd yn nyffryn Afon Elwy yn Sir Ddinbych cafwyd hyd i ddannedd a darn o ên yn perthyn i ffurf gynnar o Ddyn Neanderthal oedd yn byw rhwng 230,000 a 180,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r 20 darn asgwrn yma'n hynod o bwysig ac yn gofnod o o leiaf 6 unigolyn.

Mae ein gwybodaeth yn dibynnu ar dystiolaeth archaeolegol o'r ogofâu a'u preswylwyr paleolithig gan fod y rhewlifau wedi dileu yr olion eraill. Daw'r darganfyddiadau cynharaf ar ddiwedd Oes yr Hen Gerrig o ogofâu calchfaen yng ngogledd a de-orllewin Cymru. Gellir cymharu'r offer callestr o'r cyfnod hwnnw ag offer cyffelyb sy'n perthyn i ddiwylliant Aurignac (a elwir ar ôl ogofâu ger Aurignac, de Ffrainc).

Mamoth

Mae'r sgerbwd a ddarganfuwyd yn Ogof Paviland yn 1823 yn dyddio o tua 16,500 CP. Roedd diwylliant y grwpiau bychain o helwyr yng Nghymru yn perthyn i'r diwylliant paleolithig a elwir yn Greswelaidd ac a geir yn gyffredinol yn ne Prydain. Ychydig iawn o bobl fu'n byw yng Nghymru, efallai cyn lleied â rhai cannoedd ohonyn nhw, ac roeddent yn rhannu'r tir ag anifeiliaid gwyllt megis y mamothiaid diflanedig, eirth a cheirw anferth tebyg i'r elc yng ngogledd America. Yn ogystal â hela anifeiliaid roeddent yn hel llysiau a bwyd gwyllt arall. Does dim tystiolaeth ddibynadwy am baentio ar furiau ogofâu.

Yn Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno cafwyd hyd i offer wedi'u gwneud gan ddyn a oedd yn byw yn Nyffryn Clwyd tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl gan gynnwys asgwrn a charreg wedi'i siapio'n ofalus. Ceir safleoedd cyffelyb yn Ogof Coygan, Sir Gaerfyrddin (25,000 C.P.) ac Ogof y Lyncs yn Eryrys ble ceir gweddillion merch deg oed o 11,000 C.P.

Ni cheir unrhyw olion o ddyn yng Nghymru rhwng 21,000 a 13,000 o flynyddoedd yn ôl, ac mae'n bosib nad oedd pobl yma. Ceir olion claddu yn Ogof Kendrick ym Mhen y Gogarth, fodd bynnag, sydd wedi'i ddyddio i tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl.[17]

Oes Ganol y Cerrig

[golygu | golygu cod]
Meicrolith
Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Protohanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig
Oes Newydd y Cerrig
Cynhanes
Mesolithig
Oes Ganol y Cerrig
P     Paleolithig diweddar
Hen Oes y Cerrig
 
    Paleolithig canol
Hen Oes y Cerrig
    Paleolithig cynnar
Hen Oes y Cerrig
  Hen Oes y Cerrig
Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Fel yn achos gweddill gogledd-orllewin Ewrop, roedd Oes Ganol y Cerrig neu'r Mesolithig, o tua 9000 CC hyd tua 4000 CC, yn gyfnod sy'n gorwedd rhwng diwedd yr olaf o Oesoedd yr Iâ yn Ewrop a dechrau amaethyddiaeth. Dyma'r cyfnod pan ffurfiwyd Cymru i'w siâp presennol. Roedd pobl yn dal i fyw mewn grwpiau bychain, yn hela anifeiliaid gwyllt a hel bwydydd y môr, cnau a llysiau er mwyn cynnal eu hunain. Nodweddir eu diwylliant, sy'n perthyn i ddiwylliant Maglemosiaidd y cyfandir, gan yr arfer o wneud microlithiau (offer carreg bychain) a fyddai fel rheol yn cael eu gosod mewn handlau pren neu asgwrn neu ymhen gwaywffyn. Y ci oedd yr unig anifail domestig.

Yn y cyfnod hwn, roedd yr hinsawdd yn gwella'n araf a'r tymheredd yn codi. Byddai'r amgylchedd yn adlewyrchu hyn. Tyfai coedwigoedd a diflannodd y mamothiaid olaf. Daeth pobl drosodd o'r cyfandir fesul dipyn, gan groesi'r pont tir rhwng Prydain ac Ewrop lle ceir Môr Udd heddiw. Roedd yr arfordir yn uwch nag y mae heddiw ac yn cynnig safleoedd deniadol i bobl. Bu rhywfaint o ymsefydlu yn y bryniau hefyd ac roedd bywyd ger yr arfordir yn haws. Defnyddiai pobl eu hoffer microlith - a oedd ymhell o fod yn gyntefig - i hela anifeiliaid a physgod.

Ychydig iawn o olion pobl y cyfnod sydd wedi goroesi. Roedd eu trigfannau'n gysgodfeydd ac adeiladau pren ysgafn yn ôl pob tebyg, a byddent yn mudo'n aml i ddilyn preiddiau anifeiliaid neu hel bwydydd y môr yn ôl y tymor. Fel rheol dim ond drylliau bychain o gallestr wedi'u gwasgaru ar y llawr sydd i'w cael ond ceir olion mwy sylweddol mewn ambell ogof, e.e. Ogof Nana ar Ynys Bŷr oddi ar arfordir Sir Benfro.

Nid yw'n amhosibl fod rhai o'r traddodiadau a geir yn llên gwerin Cymru yn dyddio o'r cyfnod hwn, yn arbennig y chwedlau am diroedd a foddwyd, fel Cantre'r Gwaelod.

Oes Newydd y Cerrig

[golygu | golygu cod]
Bwyell garreg i'w weld yn Amgueddfa Wrecsam o Oes Newydd y Cerrig

Nodweddir y cyfnod Neolithig yng Nghymru gan ddechrau ffermio. Credir fod hyn yn dyddio o tua 4000 CC, pan mae canlyniadau dadansoddiad paill yn awgrymu fod rhywfaint o glirio'r fforestydd wedi dechrau, proses a gyflymodd yn ystod y cyfnod.

Pentre Ifan, Sir Benfro.

Un o brif nodweddion y cyfnod yma yng Nghymru oedd adeiladu siambrau claddu. Mae'r domen o gerrig neu bridd oedd yn gorchuddio'r rhan fwyaf ohonynt bellach wedi diflannu, gan adael y meini mawr oedd yn ffurfio'r siambr ei hun, y cromlechi. Ceir tri prif fath o siambrau claddu yng Nghymru, y Beddrodau Hafren-Cotswold , yn bennaf yn y de-ddwyrain, y Beddau Porth, yn bennaf o gwmpas yr arfordir gorllewinol, a'r Beddau Cyntedd, sy'n arbennig o nodweddiadol o Ynys Môn ac sy'n debyg iawn i rai o siambrau claddu Neolithig enwog Iwerddon. Mae yna lawer o dystiolaeth o gysylltiad diwylliannol clos rhwng Cymru ac Iwerddon, yn enwedig yn y cyfnod Neolithig cynnar.

Mae olion aneddiadau yn brinnach, ond mae nifer gynyddol wedi eu darganfod yn y cyfnod diweddar. Yr enwocaf yw tai Clegyr Boia ger Tyddewi a'r tŷ yn Llandygai ger Bangor. Roedd nifer o "ffatrïoedd" yng Nghymru yn cynhyrchu bwyeill cerrig. Y mwyaf o'r rhain oedd Graig Lwyd ger Penmaenmawr; mae cynnyrch Graig Lwyd wedi ei ddarganfod cyn belled a Swydd Efrog a chanolbarth Lloegr.

Oes yr Efydd

[golygu | golygu cod]
Clogyn yr Wyddgrug, yn awr yn yr Amgueddfa Brydeinig.

Dechreuodd Oes yr Efydd yng Nghymru tua 2500 CC., pan ymddangosodd eitemau metel am y tro cyntaf; copr yn gyntaf, yna efydd, sy'n gymysgedd o gopr ac ychydig o dun, llawer caletach na chopr ar ei ben ei hun. Y gred draddodiadol oedd fod pobl wahanol wedi mewnfudo, gan ddwyn y dechnoleg newydd gyda hwy a disodli'r trigolion blaenorol. Erbyn hyn, nid yw'r rhan fwyaf o archaeolegwyr yn credu fod hyn wedi digwydd ar raddfa fawr, ond yn hytrach fod y boblogaeth gynhenid wedi mabwysiadu'r dechnoleg newydd. Roedd y tywydd yn gynnar yn Oes yr Efydd tua 2100-1400 CC. yn gynhesach nag yw ar hyn o bryd, ac mae llawer o weddillion sefydliadau ar dir uchel sy'n awr yn fawnog anial.

Roedd nifer o fwyngloddiau yng Nghymru yn cynhyrchu copr ar gyfer gwneud efydd, yn arbennig mwynfeydd Pen y Gogarth ger Llandudno, lle roedd mwyngloddio ar raddfa fawr. Defnyddid y copr yma i gynhyrchu eitemau o efydd yn lleol. Enwyd arddull y rhain ar ôl y casgliad pwysicaf sydd wedi ei ddarganfod, ym Mharc Acton gerllaw Wrecsam. Datblygwyd y rhain, pennau bwyeill yn arbennig, tua diwedd cyfnod cynnar Oes yr Efydd, ac maent yn nodweddiadol o ran eu harddull. Cawsant eu hallforio cyn belled a Llydaw a'r Almaen.

Gwelir gwahaniaeth yn arferion claddu yn Oes yr Efydd o'i gymharu a'r cyfnod Neolithig o'i flaen. Yn hytrach na chladdfeydd cymunedol mewn siambrau claddu, mae'r cyrff, neu'r gweddillion ar ôl amlosgi, yn cael eu claddu yn unigol mewn tomenni crynion gyda rhywfaint o grochenwaith neu eitemau eraill. Y patrwm cyffredin yng Nghymru erbyn tua 2000 CC. yw nifer o gladdedigaethol unigol mewn un domen; er enghraifft Bedd Branwen ar Ynys Môn. Un o'r darganfyddiadau mwyaf syfrdanol o Gymru yw'r clogyn aur a ddarganfuwyd mewn beddrod o'r enw Bryn yr Ellyllon, ger Yr Wyddgrug. Mae hwn yn dyddio o tua 1900-1600 CC., yn pwyso 560 gram ac wedi ei wneud o un darn o aur. Ychydig iawn o arfau sydd wedi eu darganfod mewn beddau yng Nghymru, ac nid oes arwydd fod amddiffynfeydd yn gwarchod sefydliadu o'r cyfnod, sy'n awgrymu cymdeithas heddychlon.

O tua 1250 CC. dirywiodd y tywydd, a daeth hyn yn amlycach o tua 1000 CC., gyda mwy o law a hafau oerach. Cynyddodd y broses o ffurfio mawn, ac mae'n debyg i lawer o sefydliadau ar yr ucheldiroedd gael eu gadael. Awgryma rhai ysgolheigion fod hyn wedi arwain at ymryson am dir, ac ymddangosiad y bryngaerau cyntaf tua 800 CC..

Tua diwedd Oes yr Efydd daw arfau yn fwy cyffredin. Ymddengys fod llawer o'r rhain wedi eu gwneud tu allan i Gymru, ond mae bwyeill a chelfi eraill o wneuthuriad lleol. Gellir gweld pedair arddull wahanol o'r celfi hyn; yn y gogledd-orllewin, gogledd-ddwyrain, de-ddwyrain a de-orllewin. Yn ddiddorol, mae hyn yn cyfateb yn fras i diriogaethau'r gwahanol lwythau a gofnodir yn ddiweddarach yn Oes yr Haearn, yr Ordoficiaid, Deceangli, Silwriaid a'r Demetae.

Oes yr Haearn

[golygu | golygu cod]
Un o'r mynedfeydd i fryngaer Tre'r Ceiri, Gwynedd

Dechreuodd Oes yr Haearn yng Nghymru oddeutu 650 CC., dyddiad y celfi haearn cyntaf i'w darganfod yng Nghymru, yn Llyn Fawr ym mhen draw Cwm Rhondda, lle roedd nifer o eitemau wedi ei talu i'r llyn fel offrymau i'r duwiau. Efydd oedd y rhan fwyaf, ond roedd tri o haearn, cleddyf, pen gwaywffon a chryman. Credir fod y cleddyf wedi ei fewnforio, ond mae'r cryman o wneuthuriad lleol, ac yn efelychiad o fath lleol wedi ei wneud o efydd.

Yn o nodweddion y cyfnod yma oedd adeiladu nifer fawr o fryngaerau, er enghraifft Pen Dinas ger Aberystwyth a Tre'r Ceiri ar Benrhyn Llŷn. Y fryngaer gynharaf sy'n bendant yn dyddio o Oes yr Haearn, i bob golwg, yw Castell Odo, bryngaer fechan ger Aberdaron, Llŷn, sy'n dyddio i tua 400 CC.. Ceir y bryngaerau mwyaf yn y dwyrain, gyda rhai hefyd ar diroedd is y gogledd-orllewin. Yn y de-orllewin, mae bryngaerau yn niferus iawn ond yn llawer llai, y rhan fwyaf ag arwynebedd o lai na 1.2 hectar.

Un o'r darganfyddiadau pwysicaf o'r cyfnod oedd casgliad mawr o eitemau oedd wedi eu hoffrymu i'r duwiau yn Llyn Cerrig Bach ar Ynys Môn. Cafwyd hyd i'r rhain yn 1943 wrth baratoi tir ar gyfer adeiladu maes awyr newydd. Roedd y darganfyddiadau yn cynnwys arfau, tariannau, cerbydau a'u hoffer atodol, cadwyni ar gyfer caethweision ac eraill. Roedd llawer wedi eu torri neu eu plygu yn fwriadol. Ystyrir y rhain yn un o'r darganfyddiadau pwysicaf ym Mhrydain o waith metel Diwylliant La Tène. Mae crochenwaith, ar y llaw arall, yn brin yng Nghymru yn y cyfnod hwn, a'r rhan fwyaf ohono wedi ei fewnforio.

Yn draddodiadol, cysylltir diwylliant La Tène a'r Celtiaid, a'r farn gyffredinol hyd yn ddiweddar oedd fod ymddangosiad y diwylliant yma yn dangos mewnlifiad mawr o bobl newydd oedd yn siarad iaith Geltaidd, ac a ddisodlodd y boblogaeth oedd yno ynghynt. Y farn gyffredinol erbyn hyn yw na ddigwyddodd hyn ar raddfa fawr, ac mai'r diwylliant a newidiodd yn hytrach na'r bobl.

Diweddodd y cyfnod cynhanesyddol pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid, a ddechreuodd eu hymgyrchoedd yn erbyn y llwythau Cymreig gydag ymosodiad ar y Deceangli yn y gogledd-ddwyrain yn 48 OC.. Bu ymladd chwerw yn erbyn y Silwriaid a'r Ordoficiaid, ond erbyn tua 79 roedd y goncwest wedi ei chwblhau. Mae adroddiad yr hanesydd Rhufeinig Tacitus yn rhoi tipyn o wybodaeth am Gymru yn y cyfnod yma, er enghraifft fod Ynys Môn i bob golwg yn fan arbennig i'r Derwyddon. Efallai fod effaith y Rhufeiniaid ar y brodorion yn amrywio o un rhan o Gymru i'r llall; er enghraifft mae tystiolaeth fod rhai bryngeiri, megis Tre'r Ceiri, yn parhau i gael eu defnyddio yn y cyfnod Rhufeinig.

Siart gronolegol gyda chrynodeb o gynhanes Cymru.

Cyfnod CC Hinsawdd Adeiladau a threfedigaethau Delwedd Arteffactau Diwydiant Defodau a marwolaeth Coed
yn ymddangos
Hen Oes y Cerrig 225000 Oer Rhelifol Ogof Bontnewydd
Ogof Bontnewydd
Bwyeill Levallois Hela Bedw, meryw, pinwydd
Hen Oes y Cerrig Canol
(Paleolythig Canol)
50,000 Oer Ogof Coygan Bwyeill trionglog Pysgota
Hen Oes y Cerrig Uchaf
(Paleolythig Uwch)
29,000 Oer Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno
Hen Oes y Cerrig Uchaf
Paleolythig Uwch
26,000 Oer Ogof Pen-y-Fai (Paviland)
Ogof Paviland
Llafnau Casglu a hel bywyd gwyllt Claddu 'Arglwyddes Goch Pen-y-Fai'
Oes Ganol y Cerrig 10000 Cynnes a sych Nab Head
Rhuddlan
Waun Fignen Felen, Bannau Brycheiniog

Microlith
Microlithiau Ogof Kendrick
Cerrig Rhuddlan
Coed cyll, Bedw, pinwydd
Oes Newydd y Cerrig 4400 Cynnes a gwlyb Cylch cytiau caeedig Cororion
Gwernvale, Crucywel
Powlenni clai
Bwyeill carreg
Ffermio
Chwareli carreg a challestr
Claddfeydd mawr Cromlechi
Beddrodau Hafren-Cotswold
Siambrau claddu: Bryn Celli Ddu, Barclodiad y Gawres, Pentre Ifan a Tinkinswood
Derw, llwyf (elm), leimwydd, ynn, gwern
Oes Newydd y Cerrig 3600 Cynnes a gwlyb Clegyr Fwya Pen saethau siap deilen
Crochenwaith 'Peterborough'
Siamberi claddu
Cwrswsau
Oes Newydd y Cerrig 2900 Cynnes a sych Adeiladau bychain, crwn: Trelystan, Powys
Walton
Crochenwaith rhychiog
Biceri
Bwyeill efydd
Gwayw fwyeill
Mwyngloddio efydd
Bryn Copa
Henebion cylchoedd pridd
Cylchoedd pren
Beddau unigol cynnar
Meini hirion
Oes yr Efydd Cynnar 2300 Cynnes a sych Stagbwll
Cytiau Dosabrth ll
Mwntiau llosg
Llestri dal bwyd
Yrnau gyda choler (Bedd Branwen)
Efydd Gwaunyterfyn, Wrecsam
Efydd Cemaes, Penfro
Mynydd Parys
Pen y Gogarth
Carneddau cylchog
Cylch cerrig
Oes yr Efydd Canol 1400 Cynnes a sych Tai crwn pren Glanfeinion, Llandinam
Gwent Levels (Gwynllŵg)
Efydd Rhuddlan a Penard (Gorllewin Morgannwg) Mwyngloddio aur Carneddi ymylfaen
Oes yr Efydd Hwyr 1100 Oer a gwlyb Copa bryniau waliog Breiddin, Dinorben Efydd Carp's tongue
Crochenwaith Breiddin
Metalau Guilsfield a Wilburton
Ailgladdu mewn ambell fwnt
Llyn Fawr
Oes yr Haearn 50 – 800 Cynhesach a sychach Bryngaerau (Moel y Gaer (Rhosesmor), Moel Hiraddug, Moel y Gerddi)
Tir caeedig (Collfryn, Dan y Coed, Bryn Eryr Sudbrook
Ogof Tynant[18])
Crochenwaith Bryniau Malvern
Gwaith metel La Tène
Crochenwaith droell wedi'u haddurno (Llanmelin)
Gwaith metal gydag enamel
Halen
Diwydiant haearn
Maeni hirion
Claddu'r corff yn hytrach na'i losgi
Offrymu mewn llynnoedd (Llyn Cerrig Bach)

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Steve Burrow (2006) Cromlechi Cymru: marwolaeth yng Nghymru 4000 - 3000 CC (Amgueddfa Cymru) ISBN 0 7200 05671
  • George Children a George Nash (1997) The anthropology of landscape: a guide to Neolithic sites in Cardiganshire, Carmarthenshire & Pembrokeshire (Logaston Press) ISBN 1-873827-99-7
  • I.Ll. Foster & Glyn Daniel (gol.) (1965) Prehistoric and early Wales (Routledge and Kegan Paul)
  • Frances Lynch (1970) Prehistoric Anglesey: the archaeology of the island to the Roman conquest (Cymdeithas Hynafiaethwtr Môn)
  • Frances Lynch, Stephen Aldhouse-Green a Jeffrey L. Davies (2000) Prehistoric Wales (Sutton Publishing) ISBN 0-7509-2165-X

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Discovering a Welsh Landscape gan Ian Brown; Cyhoeddwyd gan Windgather Press; 2004; ISBN 0-9545575-7-3; tudalen 21. The climate continually changed...
  2. "Oesoedd Iâ a Phreswylwyr Ogofâu". Museum Wales. Cyrchwyd 2024-06-01.
  3. Higham, Tom; Compton, Tim; Stringer, Chris; Jacobi, Roger; Shapiro, Beth; Trinkaus, Erik; Chandler, Barry; Gröning, Flora et al. (2011-11). "The earliest evidence for anatomically modern humans in northwestern Europe" (yn en). Nature 479 (7374): 521–524. doi:10.1038/nature10484. ISSN 1476-4687. https://www.nature.com/articles/nature10484.
  4. Jacobi, R. M.; Higham, T. F. G. (2008-11-01). "The “Red Lady” ages gracefully: new ultrafiltration AMS determinations from Paviland". Journal of Human Evolution. Chronology of the Middle-Upper Paleolithic Transition in Eurasia 55 (5): 898–907. doi:10.1016/j.jhevol.2008.08.007. ISSN 0047-2484. https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0047248408001656.
  5. "Red Lady of Paviland: Campaign to return 33,000-year-old human skeleton to Swansea". ITV Wales. 2023.
  6. Sarah (2023-01-22). "Red Lady of Paviland: the story of a 33,000 year-old-skeleton – and the calls for it to return to Wales". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-06-01.
  7. "Ancient genomes indicate population replacement in Early Neolithic Britain". Nature. 2019.
  8. "Cymraeg – Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2024-06-01.
  9. "Cymraeg – Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2024-06-01.
  10. "Recent Excavations at Llandygai, near Bangor, North Wales" (PDF). 2008. t. 3.
  11. Burrow, Steve (2010-01). "Bryn Celli Ddu Passage Tomb, Anglesey: Alignment, Construction, Date, and Ritual" (yn en). Proceedings of the Prehistoric Society 76: 249–270. doi:10.1017/S0079497X00000517. ISSN 2050-2729. https://www.cambridge.org/core/journals/proceedings-of-the-prehistoric-society/article/abs/bryn-celli-ddu-passage-tomb-anglesey-alignment-construction-date-and-ritual/6A95DFB4ED16F57FFCC6501466424DF1.
  12. "Bryn Celli Ddu Passage Tomb, Anglesey: Alignment, Construction, Date, and Ritual".
  13. "Large-scale migration into Britain during the Middle to Late Bronze Age". Nature. 2021 [2020].
  14. 14.0 14.1 Jones, Barri (1990). An atlas of Roman Britain. Internet Archive. Cambridge, Mass., USA : Blackwell. t. 42. ISBN 978-0-631-13791-7.
  15. Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 37–52. ISBN 978-1-84990-373-8.
  16. Discovering a Welsh Landscape gan Ian Brown; Cyhoeddwyd gan Windgather Press; 2004; ISBN 0-9545575-7-3; tudalen 22. Britain in fact was never completely covered by ice...
  17. Lynch, Aldhose-Green & Davies Prehistoric Wales tud. 41
  18. www.ogof.org.uk


Cynhanes Cymru
Hen Oes y Cerrig | Oes Ganol y Cerrig | Oes Newydd y Cerrig | Oes yr Efydd | Oes yr Haearn